Cefndir

Mae’r wefan hon yn adlewyrchu’r effaith gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru – a’r effaith gafodd Cymru ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ynddi fanylion, sy’n seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan unigolion, cymunedau a sefydliadau.
am sut y bu pobl Cymru yn coffáu’r canmlwyddiant pwysig hwn

Bwriad Llywodraeth Cymru oedd darparu Rhaglen Fframwaith gynhwysol a fyddai’n cynnwys digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol. Cafodd y rhain eu hategu gan weithgareddau cymunedol, a phrosiectau a rhaglenni addysgol. Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru, ddatblygodd y fframwaith hwnnw gan ymgynghori â Bwrdd Rhaglen y Canmlwyddiant. Yr Athro Syr Deian Hopkin, Cynghorydd Arbenigol y Prif Weinidog, oedd Cadeirydd y Bwrdd, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol.

Am wybodaeth bellach ar Bartneriaid Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 cliciwch yma

Cyhoeddiadau:

Rhaglen Fframwaith

Cafodd gweithgarwch coffáu yng Nghymru ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol ledled y wlad. Roedd y Rhaglen Fframwaith ar gyfer y Coffáu yng Nghymru 2014-2018 yn pennu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y canmlwyddiant ac yn amlinellu rhai o’r prif ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod cyfnod y coffáu.

I weld y Rhaglen Fframwaith Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

rhaglen_2018Y llyfryn oedd y cyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol a oedd yn manylu ar y digwyddiadau a gafodd eu cynnal yng Nghymru, neu mewn mannau eraill os oeddent yn berthnasol i Gymru, er mwyn coffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd pob cyhoeddiad hefyd yn cynnwys erthyglau manwl am wahanol ddigwyddiadau a phrosiectau coffáu.

I weld cyhoeddiad Terfynol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, cliciwch yma.

I weld y Rhaglen 2018 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma

I weld y Rhaglen 2017 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

I weld y Rhaglen 2016 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

I weld y Rhaglen 2015 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

I weld y Rhaglen 2014 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Olrhain y rhan a chwaraeodd eich perthnasau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cliciwch yma.

Am ffynonellau gwybodaeth ar y coffâd cliciwch yma.

Am wybodaeth bellach ar gynllun Grantiau Ysgolion Uwchradd Llywodraeth Cymru ewch yma

Am wybodaeth bellach ar gynllun Grantiau ar gyfer Cofebion Rhyfel Cadw ewch yma

Cysylltwch â ni

Os ydych am gysylltu â Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, cliciwch yma.

Os oes yn well gennych gysylltu â ni drwy’r e-bost, anfonwch e-bost atom: cymruncofio-walesrem@llyw.cymru

Pam mae coffáu’r rhyfel yn bwysig?

Bu farw dros 15 miliwn o bobl yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dioddefodd 20 miliwn ychwanegol anafiadau a amharodd mewn rhai achosion ar weddill eu bywydau. Prin oedd y teuluoedd yng Nghymru na welsant berthynas yn cael ei glwyfo neu ei ladd yn y rhyfel.

Roedd y rhyfel yn drychineb annisgwyl a ddilynodd gyfnod o gystadleuaeth a drwgdybiaeth rhwng y cenhedloedd. Canlyniad mwyaf ingol y rhyfel oedd y marwolaethau, ond fe gafodd y gyflafan effeithiau eraill, pellgyrhaeddol. Wrth i ymerodraethau mawr gwympo yn Ewrop ac i rym economaidd America gryfhau newidiwyd cydbwysedd grym y byd. Ym Mhrydain, hefyd, bu newidiadau gwleidyddol sylweddol, a daeth wladwriaeth i gymryd rhan amlycach ym mywydau unigolion.

Ar ddiwedd y brwydro gadawyd y gwledydd a fu’n ymladd yn dlawd, a phobl yr Almaen yn agos at newynu. Roedd Prydain ar fin bod yn fethdalwr ac wedi’r rhyfel ni lwyddodd i adennill yr hunanhyder a welwyd cyn hynny. Mewn rhai gwledydd daeth mudiadau gwleidyddol eithafol i rym ac ymhen prin ugain mlynedd dechreuodd Rhyfel Byd arall.

Dechreuodd y Rhyfel Mawr fel rhyfel rhanbarthol ond ymledodd nes bod bron pob gwlad yn Ewrop a nifer o wledydd eraill dros y byd yn rhan o’r ymladd, o gyfandir America i’r Dwyrain Pell.

Oherwydd i’r ymladd ddigwydd ar raddfa mor enfawr a bod y canlyniadau mor sylfweddol, mae’n hanfodol bwysig i ni geisio deall achosion a dylanwad y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ystyried, yn ystod cyfnod y canmlwyddiant, yr aberth fawr a wnaed gan unigolion a chymunedau. Drwy astudio’r digwyddiadau hyn efallai y gallwn ddysgu sut i osgoi eu tebyg yn y dyfodol.