NEWYDDION

Penodi Cynghorydd Arbenigol i helpu Cymru i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

01 / 03 / 2012
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru

© Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod wedi penodi Syr Deian Hopkin yn gynghorydd arbenigol ar gyfer cynnal gweithgareddau i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd Syr Deian yn ein cynghori ar y ffordd orau o gofio’r rhyfel ac ennyn diddordeb pobl Cymru.

Wrth siarad yn ei gynhadledd fisol i’r wasg, pwysleisiodd y Prif Weinidog pa mor bwysig yw hi bod y genedl yn cofio aberth y rheini a wasanaethodd yn y rhyfel.

Dywedodd:

“Gwelir y Rhyfel Byd Cyntaf gan lawer fel un o’r rhyfeloedd mwyaf marwol yn hanes y ddynoliaeth, gyda miliynau o bobl, yn filwyr ac yn bobl gyffredin, yn colli eu bywydau.  Wrth inni nesáu at Ganmlwyddiant y rhyfel, dw i’n teimlo ei bod yn hynod o bwysig cofio’r rheini a fu farw, a chofio hefyd sut y newidiodd Gymru a’r byd am byth yn ei sgil.  Rydym bellach wedi colli’r ddolen fyw olaf â’r rhyfel, gan nad yw’r cyn-filwyr a wasanaethodd ynddo gyda ni bellach, ond mae’n ddyletswydd arnom gofio eu dioddef enbyd.  Bydd meddwl am y Rhyfel Byd Cyntaf yn ein helpu i ddeall y gorffennol, a bydd hefyd yn ein helpu i ddeall y rhyfeloedd sy’n digwydd ledled y byd heddiw.”

“Er mwyn coffáu digwyddiad mor arwyddocaol â hwn, dw i’n falch o gael cyhoeddi y bydd Syr Deian Hopkin yn ysgwyddo’r rôl o gynghorydd arbenigol ar gyfer cynnal y gweithgareddau i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Cynhelir digwyddiadau a seremonïau yng Nghymru a thu hwnt, a bydd Syr Deian yn gallu ein cynghori ar y ffordd orau o gofio’r rhyfel ac ennyn diddordeb pobl Cymru.  Mae Syr Deian Hopkin mewn sefyllfa wych i gyflawni’r rôl hon, a bydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn taro’r nodyn iawn gan roi sylw teilwng i’r Canmlwyddiant.  Mae’n hanesydd uchel ei barch sy’n awdurdod ar yr ugeinfed ganrif gynnar.  Ar hyn o bryd, mae’n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac felly’n dal swydd sy’n galw am ei arbenigedd ar hanes Cymru.”

Bydd Syr Deian yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i’w cynnal rhwng 2014 a 2018.

Dywedodd Syr Deian Hopkin:

“Mae canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 heb os nac oni bai yn ganmlwyddiant ingol a phwysig. Ni chafodd unrhyw deulu na chymuned ddianc rhag effeithiau’r rhyfel hwnnw a arweiniodd at newidiadau enfawr i wleidyddiaeth, cymdeithas a’r economi.  

“Dw i mor falch bod y Prif Weinidog wedi gofyn imi helpu i lunio ffordd briodol o nodi’r digwyddiad hwn, er mwyn inni allu dod i ddeall yn well beth achosodd y rhyfel hwn a’r gwersi y gallwn ni eu dysgu.”