Croesawodd Dr Manon Williams, Dirprwy Gadeirydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y penderfyniad i ariannu hyn yn rhannol.
Caiff yr Ysgwrn ei ddatblygu ymhellach fel cofadail cyhoeddus i’r bardd, a fu farw ym Mrwydr Passchendaele ym 1917. Chwe wythnos ar ôl ei farwolaeth, enillodd y gadair yn Eisteddfod Penbedw am ei gerdd ‘Yr Arwr’. Cludwyd y Gadair yn ôl i’w gartref o dan len ddu ac mae bellach yn symbol o’r genhedlaeth o Gymry ifanc a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r cytundeb yn cynnwys prynu’r ffermdy rhestredig Gradd II*, sydd wedi’i gadw’n ‘gapsiwl amser’ unigryw o gyfnod Hedd Wyn, y fferm ei hun, ynghyd â’r Gadair Ddu a’r cadeiriau eisteddfod eraill yr enillodd Hedd Wyn, y celfi gwreiddiol ac archif hynod ddiddorol o hen greiriau’r bardd a’i deulu.
Mae nai’r bardd, Gerald Williams, wedi hen arfer â chroesawu ymwelwyr i’r tŷ o ganlyniad i addewid y teulu i gofio am Hedd Wyn. Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithredu ac yn gofalu am yr eiddo. Bydd yr Awdurdod yn cychwyn rhaglen ddatblygu ddwy flynedd i ddehongli hanes Hedd Wyn a bywyd ar fferm yn Eryri ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Bydd hefyd yn sicrhau bod mynediad y cyhoedd i’r safle yn parhau ac yn gwella, yn enwedig i blant ysgol.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd yr adeilad pwysig hwn a’i gasgliadau unigryw yn cael eu diogelu er mwyn y genedl gyfan. Mae Hedd Wyn, ei waith a thrychineb ei dranc yn rhoi lle arbennig iddo yn hanes a diwylliant ein cenedl.
“Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithio gyda Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri i ddiogelu’r Ysgwrn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n fwy arwyddocaol byth wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf a chofio aberth cynifer o bobl.”
Dywedodd Dr. Manon Williams, Ymddiriedolwr Cymru Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol:
“Mae hyn yn brosiect pwysig. Wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, rydyn ni’n cofio aberth dynion a menywod ifanc Prydain. Fel cynifer o’i genhedlaeth, fe wnaeth Hedd Wyn yr aberth mwyaf, gan ddod yn symbol o’r genhedlaeth gyfan a gollwyd. Sefydlwyd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol i helpu i ddiogelu’n treftadaeth i’w coffáu, ac mae cartref Hedd Wyn, sydd â’i waith yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth newydd o feirdd, yn deyrnged fawr iddyn nhw i gyd.”
Dywedodd Cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri, y Cynghorydd Caerwyn Robets: “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Mr Gerald Williams am eu gweledigaeth, eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd dros ddiogelu Yr Ysgwrn i’r genedl. Mae hi’n fraint inni gymryd gofal dros yr adeilad hwn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byddwn yn sicrhau bod y safle’n cael ei chadw fel cofnod o ddiwylliant cymdeithasol ac amaethyddol Cymru ar droad yr 20fed ganrif, er cof am fywyd a chyfraniad llenyddol Hedd Wyn.”