Ar ymweliad â stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, amlinellodd Mr Jones ei weledigaeth ar gyfer nodi’r achlysur, gan gynnwys sicrhau bod profiadau’r Cymry o’r rhyfel ar gof a chadw ar ffurf ddigidol.
Hefyd, clywodd y Prif Weinidog am brosiect gwerth £1 miliwn y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ei arwain i ddigideiddio llawysgrifau, ffotograffau, ffilm a llawer o bethau eraill sy’n dangos hanes cudd y rhyfel a sut y bu iddo effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Derbyniodd y prosiect grant o £500,000 gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth a chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Ymhlith y casgliadau a fydd yn cael eu digideiddio mae 190,000 o dudalennau o destun argraffedig, lluniau, 50 awr o sain ac 20 awr o ddeunydd clyweledol. Mae llawer o’r cynnwys yn fregus, yn anodd cael mynediad atynt ac wedi’u gwasgaru ar draws sawl sefydliad yng Nghymru.
Ymhlith y delweddau pwysicaf mae cofnodion y Corfflu Cymreig; papurau newydd Cymreig 1913-1919, cyfnodolion Cymreig a chyhoeddiadau argraffedig eraill, dyddiaduron, cylchgronau a llythyrau ac archifau llenyddol, gan gynnwys gwaith beirdd o gyfnod y rhyfel, megis Edward Thomas, David Jones a Hedd Wyn.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio aberth y bobl fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, rhyfel a newidiodd Gymru a’r byd am byth.
“Rhwng 2014 a 2018 caiff seremonïau coffa eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt i dalu teyrnged i’r milwyr a’r bobl gyffredin fu farw.
“Rhaid sicrhau bod hanesion ein cyndadau ar gael drwy adnoddau digidol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddeall y digwyddiad hollbwysig hwn yn ein hanes, a dysgu gwersi ohono. Mae cymaint o hanesion a straeon ar gael i’w cofnodi. Er enghraifft, stori’r glowyr o Gymru a ddefnyddiodd eu sgiliau i adeiladu twneli o dan ‘dir neb’ a sut yr oedd y Llynges Brydeinig yn ddibynnol ar ynni glo Cymru – mae’r straeon hyn yn llawn haeddu eu lle yn hanes Cymru. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y sefydlwyd Byddin Tir y Menywod a gwelwyd menywod yn gweithio fel heddweision am y tro cyntaf. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr fod stori Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei chofnodi i bawb.”
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi Syr Deian Hopkin fel ymgynghorydd arbenigol iddo ar weithgareddau i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Croesawodd yr Athro Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Prif Weinidog i stondin y Llyfrgell i roi mwy o fanylion am y cynllun.
Dywedodd Syr Deian:
“Arweiniodd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf at gyfres o ddigwyddiadau a newidiodd Gymru am byth. Cyffyrddwyd bron bob teulu a chymuned yng Nghymru gan farwolaeth drasig llawer iawn o ddynion ifainc. Hefyd, gwelwyd newidiadau pellgyrhaeddol ym maes gwleidyddiaeth a’r etholfraint – yr hawl i bleidleisio – yn ogystal â newidiadau i drefn y wladwriaeth, i rôl menywod yn ein heconomi a’n cymdeithas, a llawer mwy. Braint oedd cael fy ngwahodd gan y Prif Weinidog, i edrych ar y ffordd fwyaf priodol o nodi’r canmlwyddiant a bydd y prosiect digidol cyffrous hwn yn ganolog i’n cynlluniau.
“Mae’n bwysig fod y gweithgareddau coffa yn ymwneud â chymaint o bobl a sefydliadau â phosib. Yn ystod yr hydref byddwn yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru i gasglu syniadau ac i helpu i ddatblygu rhaglen eang o weithgareddau ar gyfer 2014-2018. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhanddeiliaid allweddol eraill. Yng Nghymru byddaf yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru, Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r BBC, yn ogystal â chydweithwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, i sicrhau bod profiad unigryw Cymru o’r rhyfel, a’i chyfraniad unigryw ato, yn cael ei hadlewyrchu’n llawn. Bydd cyngor gan arbenigwyr ym maes hanes, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth hefyd yn allweddol i sicrhau digwyddiadau a phrosiectau coffa priodol fel bo cenedlaethau’r dyfodol yn deall effeithiau’r rhyfel ofnadwy hwn.”
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod tŷ Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw 1917, wedi cael ei brynu ar ran y genedl fel rhan o gynlluniau i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf.