NEWYDDION

Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a heddiw

15 / 05 / 2013

HLF Logo image - LGEHeddiw, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn lansio Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, rhaglen grantiau bychain gwerth £6 miliwn i helpu cymunedau i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  

Mae CDL yn rhyddhau o leiaf £1 miliwn bob blwyddyn am chwe blynedd tan 2019. Bydd yn cynnig grantiau o rhwng £3,000 a £10,000 gan alluogi grwpiau cymunedol ar draws y DU i archwilio, cadw a rhannu eu treftadaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf a dyfnhau eu dealltwriaeth o effaith y gwrthdaro.  

Mae grwpiau cymunedol, yn cynnwys rhai o Sir Ddinbych ac Abertawe’n helpu i lansio’r cynllun ar draws y DU, trwy archwilio beth mae etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei olygu iddyn nhw a rhannu eu storïau a’u prosiectau gydag eraill sy’n gobeithio nodi’r Canmlwyddiannau.  

O gartwnau gwladgarol of J M Staniforth fu’n codi calon darllenwyr y Western Mail yng Nghymru trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, i brofiadau milwyr o Ogledd Cymru a wnaeth yr aberth eithaf, mae yna gynifer o straeon i’w hadrodd ac mae eu hetifeddiaeth yn parhau i effeithio ar, a llunio bywydau’n cymunedau heddiw. 

Dywedodd Sebastian Faulks CBE, y darlledwr, nofelydd, awdur Birdsong ac aelod o grŵp ymgynghorol y Llywodraeth ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf: “Mae rhaglen grantiau bychain Rhyfel Byd Cyntaf CDL yn gyfle i bob stryd, tref neu bentref i sicrhau eu bod yn cofio digwyddiadau trychinebus gan mlynedd yn ôl. Mae’n gyfle i ddysgu a choffhau ym mha bynnag ffordd maen nhw’n ei ddewis.”’

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn anhygoel o bellgyrhaeddol, gan gyffwrdd â, a siapio pob cornel o’r DU a’r tu hwnt. Bydd rhaglen newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n galluogi cymunedau yng Nghymru i archwilio etifeddiaeth barhaol y rhyfel hwn, gan helpu pobl ifanc yn benodol i ymestyn eu dealltwriaeth o’r modd mae wedi ffurfio’n byd modern.” 

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys: 

  • ymchwilio, dynodi a chofnodi treftadaeth leol; 
  • creu archif neu gasgliad cymunedol; 
  • datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth trwy arddangosfeydd, teithiau, rhaglenni ‘smartphone’ ac yn y blaen’; 
  • ymchwilio, ysgrifennu a pherfformio defnydd creadigol wedi ei seilio ar ffynonellau treftadaeth; 

Gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer cadwraeth cofebau rhyfel.   

Os bydd angen grant mwy na £10,000 ar gyfer prosiect ar y Rhyfel Byd Cyntaf, gall ymgeiswyr wneud cais i CDL trwy ei raglenni agored eraill. Mae CDL eisoes wedi buddsoddi £12miliwn mewn prosiectau ar hyd y DU – rhai bach a mawr – fydd yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Os oes gennych syniad am brosiect i nodi’r Canmlwyddiant, mae yna becyn cais ar-lein ar gael ar dudalen we Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw neu os am wneud ymholiad ar y ffôn ffoniwch swyddfa CDL yng Nghymru ar 029 2034 3413.

Prosiectau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru a ariannwyd gan CDL

Cartwnau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru – Abertawe
Roedd cartwnau gwladgarol J M Staniforth wedi codi calon darllenwyr y Western Mail yng Nghymru trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Nawr mae prosiect i ddigideiddio ei waith adeg y rhyfel yn amcanu i archwilio ymatebion y cyhoedd yng Nghymru am y Rhyfel Byd Cyntaf ar y pryd. Mae’r prosiect wedi derbyn £69,400 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri i atgynhyrchu 1,350 o luniau Staniforth ar wefan rhyngweithiol.

Bydd gwirfoddolwyr, yn cynnwys myfyrwyr ysgol, grwpiau o gadetiaid ac israddedigion o Brifysgol Abertawe, sy’n cynnal y prosiect, yn cael eu hyfforddi mewn digideiddio, technegau ‘glanhau’ lluniau a mewnbynnu data ar wefan. Bydd y wefan yn caniatáu i ddefnyddwyr weld, gwneud sylwadau, rhannu’r cartwnau a llwytho cartwnau eraill o’r Rhyfel Byd Cyntaf i fyny. Bydd sgyrsiau hefyd yn cael eu cynnal o gwmpas Cymru am y cartwnau, a bydd y prosiect yn dod i ben gyda chynhadledd gyhoeddus yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Dywedodd Chris Williams, Arweinydd y Prosiect: “Roedd y cartwnau yma’n cynnig cipolwg unigryw ar sut roedd y rhyfel yn cael ei ddeall gan bobl Prydain; roedden nhw’n ddifrifol yn eu bwriad ond eto’n ddigon bywiog i ysgogi ymateb yn syth. Ac mewn rhai ffyrdd roedden nhw o flaen eu hamser, yn ddyddiadur gweledol oedd ar gael i bawb, tebyg i flogiau heddiw.”

“Trwy gyfrwng y prosiect, bydd y gyfres o gartwnau’n cael eu casglu at ei gilydd am y tro cyntaf, a bydd yn ddiddorol gweld ymateb darllenwyr er mwyn rhoi syniad i ni o sut y byddai pobl wedi ymateb iddyn nhw yn ystod y rhyfel.”
 
“Rydyn ni hefyd yn cynnwys pobl ifanc, fydd yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael gwell dealltwriaeth o’u hanes lleol trwy gyfrwng y prosiect. Fe fyddan nhw’n chwarae rhan bwysig wrth arddangos meddyliau a theimladau modern am y rhyfel trwy greu eu cartwnau eu hunain.”  

Cofio’r Bobl Leol wnaeth Aberth yn ystod y Rhyfeloedd – Sir Ddinbych
Mae teuluoedd yn Sir Ddinbych wedi bod yn dysgu am eu perthnasau sydd â’u henwau’n ymddangos ar dair cofeb rhyfel lleol yn Llangollen, Froncysyllte a Garth sy’n cofio Rhyfel y Boer,  Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. 
Derbyniodd y prosiect, gaiff ei redeg gan Amgueddfa Llangollen, £20,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gasglu defnyddiau ar gyfer arddangosfa a gweithgareddau addysgiadol. Derbyniodd yr amgueddfa nifer o ymholiadau am yr enwau ar y cofebau a arweiniodd at y prosiect, oedd yn canolbwyntio ar y rhai a laddwyd yn ystod y ddau ryfel byd a’r effaith ar eu teuluoedd a’u cymunedau.

Roedd amrywiaeth o sefydliadau cymunedol yn rhan o’r prosiect hwn oedd yn ysbrydoledig ac yn dod â chenedlaethau at ei gilydd, lle bu gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau mewn dulliau ymchwil ac yn gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu defnyddiau ar gyfer yr arddangosfa. Mae casgliadau’r ymchwil i’w gweld ar wefan Amgueddfa Llangollen, gan greu etifeddiaeth barhaol.

Dywedodd David Crane, Rheolwr y Prosiect: “Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd effaith sylweddol ar strwythur gwleidyddol a chymdeithasol y wlad ac mae’n bwysig i bobl heddiw i allu dysgu am, a deall beth oedd profiadau eu cyndeidiau.”

“Aeth y prosiect hwn y tu hwnt i’r enwau a’r rhifau gan helpu i ddod â straeon y gwŷr a’r gwragedd arwrol hyn yn fyw. Mewn nifer o achosion fe lwyddon ni hyd yn oed i roi wyneb i enw, oedd yn helpu pobl i gysylltu â’r arddangosfa a’u hanes lleol.”

Park Place yn cofio’r Rhyfel Mawr – Tredegar
Roedd un ar ddeg enw ar blac wedi ennyn diddordeb y bobl ifanc yn Kidz R Us, canolfan gelfyddydau perfformiadol yn Nhredegar oedd unwaith yn gapel. Fe ymchwilion nhw i fywydau’r un ar ddeg o ddynion ifanc fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan greu prosiect celf wedi eu seilio ar eu canfyddiadau gyda help grant o £23,000 oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Cymrodd pedwar deg a phump o bobl ifanc ran yn y prosiect gan gynhyrchu ffilm ddogfennol ac arddangosfa am fywyd yn Nhredegar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chreodd y plant iau gerflun o geffyl wedi ei ysbrydoli gan drip i Lundain i weld y ddrama ‘Warhorse’. Cafodd y gymuned leol ehangach eu sicrhau bod y plac yn cael ei werthfawrogi ac y byddai’n dal i fod yn hygyrch iddyn nhw er bod yr adeilad wedi newid ei swyddogaeth.

http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/Rhyfel_Byd_Cyntaf_Ddoe_a_heddiw.aspx