Arian Loteri yn helpu Aberhonddu i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf
04 / 08 / 2013Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi grant i helpu Aberhonddu i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf – y grant cyntaf yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw.
Mae’r grant wedi cael ei roi i’r prosiect “Cofio Aberhonddu” a bydd yn galluogi pobl i wneud ymchwil i hanes a chefndir y rhai a enwir ar gofebion Rhyfel Byd Cyntaf lleol.
Daw’r cyhoeddiad ynglŷn â’r grant i Gofio Aberhonddu flwyddyn union cyn y bydd rhaglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn dechrau ar y 4ydd Awst 2014. Bydd y grant yn caniadau i brosiect ymchwil 9 mis i ddechrau a fydd yn astudio hanes yr 119 gwr lleol a enwir ar gofebion Aberhonddu, gan goffau rôl Aberhonddu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r grant yn cael ei roi i adran Hanes Teuluoedd cangen Aberhonddu o Brifysgol y Trydedd Oes, ac wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
“Mae’r rhaglen grantiau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn hynod bwysig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri gan y bydd yn helpu cymunedau ledled Cymru i goffau eu treftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Cofio Aberhonddu yn enghraifft wych o’r math o brosiect cymunedol y gallwn ni ei ariannu.”
Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu nifer o grantiau bychan dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw. Bydd y rhaglen newydd yma yn galluogi cymunedau ledled Cymru i ymchwilio hanes y Rhyfel ac yn helpu pobl ifanc yn enwedig i gynyddu eu dealltwriaeth o sut mae wedi llywio eu gwlad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais mawr ar goffau’r Rhyfel, ac mae’r Athro Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol sy’n ymgynghorydd arbennig i’r Llywodraeth ar ddigwyddiadau coffau, wedi pwysleisio’r angen i gynnwys cymaint o bobl, grwpiau a chymdeithasau a phosib i nodi’r Canmlwyddiant.
Dywedodd,
“Wrth i ni agosáu at Ganmlwyddiant y Rhyfel mae hi’n hanfodol ein bod yn coffau y rhai a gollodd eu bywydau, y rhai a anafwyd ac eraill a wnaeth chwarae rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf dros bedair blynedd fel y gall y cenedlaethau nesaf ddeall pwysigrwydd mawr y cyfnod hwn yn ein hanes. Mae hi’n galonogol felly gweld bod grwpiau a chymunedau eisoes yn edrych sut gallant goffau’r Rhyfel yn lleol, flwyddyn cyn y Canmlwyddiant, a bydd y prosiectau a gweithgareddau hyn yn cyfrannu tuag at wella dealltwriaeth i’r dyfodol. A gobeithiwn weld mwy yn dilyn eu esiampl dros y blynyddoedd nesaf.”
Cofio Aberhonddu
Bydd y prosiect Cofio Aberhonddu yn ceisio hel hanes pob person a enwir ar y cofebion yn y dref, gan gynnwys eu manylion geni, addysg, gwaith a’u rôl a’u rhan yn y rhyfel. Bydd y wybodaeth yn cael ei gasglu ac ar gael ar wefan y prosiect ac yn cael ei gatalogio mewn llyfryn gwybodaeth fydd yn cael ei rannu yn lleol ac i ymwelwyr.
Mae cysylltiadau lleol gyda’r Lluoedd Arfog yn parhau i fod yn gryf, ac Ysgol Filwrol Aberhonddu yn un o’r canolfannau hyfforddi milwrol mwyaf ym Mhrydain. Mae hi’n briodol iawn felly bod y grant cyntaf i gael ei roi yng Nghymru o dan y rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw ar gyfer prosiect yn yr ardal hon.
Ychwanegodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri
“Rydym wrth ein bodd bod cais y prosiect hwn, mewn ardal gyda chysylltiadau agos gyda’r Lluoedd Arfog, wedi bod yn llwyddiannus.”
http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/Aberhondduigofio’rRhyfelBydCyntaf.aspx