NEWYDDION

Cymru’n cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf – Ymweliad Prif Weinidog Cymru

05 / 09 / 2013

Carwyn JonesCyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y bydd yn ymweld â Gwlad Belg a Ffrainc yn ddiweddarach yn y mis i roi cychwyn ar raglen Cymru i goffáu can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.

Yn ystod ei daith bydd y Prif Weinidog yn ymweld ag Ypres i weld y safle a fwriedir ar gyfer cofeb newydd yn Langemark i goffáu’r milwyr o Gymru fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu ymgyrch gyhoeddus ar y gweill ers tro a chodwyd arian gan bobl yng Nghymru a Gwlad Belg fel teyrnged barhaol i filwyr Cymru.  

Bydd hefyd yn ymweld â Chofeb Mametz Wood, sef cerflun efydd o’r ddraig Goch sydd wedi’i chysegru i’r 38ain Adran (Cymreig) fu’n ymladd ym Mrwydr y Somme ym 1916. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £7,000 i adnewyddu’r gofeb.

Dywedodd y Prif Weinidog, sy’n arwain y digwyddiadau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ran Cymru, sef  Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918:

“Pleser ac anrhydedd yw cael arwain Cymru yn y digwyddiadau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae nodi canmlwyddiant ers dechrau’r rhyfel ym 1914 yn gyfle pwysig inni gofio am bawb a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Mae fy nhaith i Wlad Belg a Ffrainc yn gyfle imi dalu teyrnged i bobl o Gymru ac o bob rhan o’r byd a fu’n ymladd ac a gollodd eu bywydau, yn aml ymhell o’u cartrefi a’u hanwyliaid. Mae’n gyfle hefyd imi sôn am rai o’r ffyrdd y byddwn ni fel cenedl yn nodi’r pen-blwydd arwyddocaol hwn.”

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn ymweld â bedd Hedd Wyn – un o golledion amlycaf y brwydrau a ymladdwyd yn yr ardal hon –  a bydd yn bresennol yn seremoni’r Utgorn Olaf (y “Last Post”) ym Menin Gate.

Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Langemark a Menin Gate yn ystod prynhawn a min nos 18 Medi ac yn ymweld â Mametz Wood ar fore’r 19 Medi.