Y Prif Weinidog yn cyhoeddi cefnogaeth ar gyfer Cofeb newydd y Cymry ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf
18 / 09 / 2013Heddiw (18 Medi), bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cofeb newydd yng Ngwlad Belg i goffáu’r Cymry a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ymweliad â safle’r gofeb newydd yn Langemark yng Ngwlad Belg, bydd yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £25,000 i warantu Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’r apêl gyhoeddus i godi’r gofeb hon yn bartneriaeth rhwng pobl Cymru a Fflandrys. Mae aberth y milwyr ac eraill o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael argraff ddofn arnyn nhw ac roedden nhw am sicrhau eu bod yn cael eu coffáu. Mae’r gofeb hon yn anrhydeddu’r gwŷr o Gymru a fu farw yn y brwydrau yn Fflandrys yn ystod y gwrthdaro, ynghyd â’r holl ddynion a menywod o Gymru a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel.”
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r apêl hon ac rwy’n galw ar bobl Cymru i ystyried cyfrannu tuag at yr apêl i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei nod.”
Mae’r apêl gyhoeddus eisoes wedi codi £30,000 tuag at gost y gofeb er mwyn dechrau’r gwaith adeiladu, a bydd y Prif Weinidog yn symbolaidd yn codi’r dywarchen gyntaf yn ystod ei ymweliad. Mae’r tir y bydd y gofeb yn sefyll arno wedi cael ei roi am ddim gan yr awdurdod lleol, sef cymuned Langemark. Bydd yr apêl yn mynd ati i geisio codi £60,000 i greu Draig Goch symbolaidd i gwblhau’r gofeb, a bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu i godi’r arian hwn. Mae awdurdod rhanbarthol Gorllewin Fflandrys wedi cytuno i greu a chynnal gardd goffa Gymreig o amgylch y gofeb.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Yn ogystal â diolch yn wresog i aelodau Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys am eu hymdrechion, yn Gymry ac yn Fflandryswyr, rwyf hefyd yn cydnabod haelioni’r awdurdodau lleol yn Fflandrys am roi’r tir a mynd ati i greu a chynnal gardd goffa Gymreig. Ar ran pobl Cymru, rwy’n diolch iddynt am eu caredigrwydd yn cofio’n cydwladwyr.”
Yn ystod ei ymweliad â Fflandrys, bydd y Prif Weinidog hefyd yn ymweld â bedd y prifardd enwog, Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn i roi iddo’i enw barddol, sydd wedi’i gladdu ym mynwent ryfel Artillery Wood, nepell o lle caiff y gofeb ei chodi. Bu farw’n agos iawn at safle’r gofeb ac mae llechen gyfagos yn ei goffáu ef.
Hefyd bydd y Prif Weinidog yn mynd i’r seremoni goffáu nosweithiol wrth Gofeb Clwyd Menin yn Ieper (Ypres). Mae’r Gofeb yn coffáu dros 54,000 o ddynion o Awstralia, Canada, India, De Affrica a’r Deyrnas Unedig a gollwyd mewn brwydrau o amgylch Ieper sydd heb feddau hysbys. Bob nos am 20.00, cynhelir seremoni wrth Glwyd Menin lle mae’r frigâd dân leol yn chwarae’r ‘Caniad Olaf’ ac yn gosod torchau er cof am y rheini a gollwyd.
Bydd y Prif Weinidog yn parhau â’i ymweliad y diwrnod canlynol drwy fynd i weld Cofeb y Cymru er cof am y rheini a ymladdodd ym Mrwydr Coed Mametz yng Ngogledd Ffrainc.
Mae’r ymweliad yn nodi cychwyn rhaglen goffáu Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.