NEWYDDION

Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n helpu Rhymni ‘Cofio’r rhai a Gollwyd’

30 / 09 / 2013

HLF Logo image - LGEMi fydd grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i Rhymney Comprehensive School yn galluogi disgyblion a phobl leol i ddysgu am dreftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf y gymuned. 

Fel rhan o raglen CDL Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw mi fydd y prosiect yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol i gyfranogi a dysgu am eu treftadaeth leol trwy ymchwilio hanes aelodau o’r lluoedd arfog a rhestrir ar gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf a geir eisoes yn yr ysgol.

Dywed Jennifer Stewart, Pennaeth, CDL yng Nghymru,

“Fe newidiodd y Rhyfel Byd Cyntaf ein hanes diweddar, gan gyffwrdd ar fywydau pawb yn y wlad yma a thu hwnt. Mae’n newyddion gwych bod rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf y CDL yn denu prosiectau amrywiol led led Cymru ac mae hyn yn brosiect cymunedol ardderchog a fyddai’n helpu pobl ifanc yng Nghwm Rhymni i ymchwilio a dysgu am eu treftadaeth leol. Rydym eisoes wedi cefnogi dros £28m o brosiectau ar draws y DU a byddem yn parhau i gefnogi cymaint o geisiadau y gallem fforddio sydd eisiau nodi’r canmlwyddiant.”

Cyfranogiad Pobl Ifanc
Mi fydd y grant o £3,500 a ddyfarnwyd i Ysgol Gyfun Rhymni yn eu galluogi i sefydlu grŵp ar ôl ysgol i blant ac oedolion o’r gymuned leol, ble byddent yn ymchwilio i hanes y dynion ag enwyd ar y plac efydd ar y wal yn yr ysgol sy’n rhestru’r milwyr lleol a bu farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ceir hefyd prosiectau eraill yn y cynllun sef creu gwefan i goffau am fywydau’r milwyr ar y gofeb a hefyd dylunio a chreu mosaic gan blant ac oedolion sy’n rhan o’r prosiect.

Gan groesawu’r cyllid, dywed rheolwr y prosiect, Mark Pryce Williams,

“Trwy’r prosiect hwn mi fydd pobl ifanc yn Rhymni yn cael cyfle i ymchwilio a dysgu am straeon Rhyfel Byd Cyntaf eu cymuned a dysgu am effaith y rhyfel ar eu hardal. Mae’n wych bod y cyllid hwn yn medru cyflwyno prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau a fyddai’n buddio’r gymuned gyfan.”

Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf
Yn yr amser hyd at goffau’r canmlwyddiant yn 2014, bydd y CDL yn cynnig grantiau bach i gymunedau sydd am nodi’r canmlwyddiant trwy’r rhgalen Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw. Mi fydd y rhaglen yn caniatáu cymunedau yng Nghymru i archwilio effaith y Rhyfel Mawr a chynorthwyo pobl ifanc i ddyfnhau eu dealltwriaeth o sut y siapiodd eu gwlad.

http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/Rhymni_yn_Cofio_y_rhai_a_Gollwyd.aspx