NEWYDDION

Grant CDL i brosiect Rhyfel Byd Cyntaf Ysgol Maes Garmon

10 / 10 / 2013

HLF Logo image - LGEMae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi £10,000 i Ysgol Maes Garmon, Sir y Fflint a fydd yn caniatáu i ddisgyblion yr ysgol ymchwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar drigolion yr ardal.  

Bydd y grant yn help i ddisgyblion yr ysgol dynodi canmlwyddiant y rhyfel wrth ymweld ag archifau ac amgueddfeydd cenedlaethol er mwyn deall effaith hirdymor y rhyfel ar eu hardal.

Yn sgil y grant, a rhoddwyd fel rhan o raglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw’r CDL, mae’r ysgol bellach yn apelio ar bobl leol i chwarae rhan yn y prosiect gan rannu eu hatgofion o’r rhyfel, â’r gobaith yw recordio’r storiau fel rhan o’r ymchwil.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru,

“Mae’r diddordeb yn ein rhaglen grant i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cynyddu ac mae’n wych gweld bod arian yn cael ei rannu gyda chymaint o grwpiau a phrosiectau amrywiol. Yn amlwg, mae Ysgol Maes Garmon wedi cymryd at y prosiect gyda disgyblion o bob oedran yn yr ysgol yn cymryd yr awenau arno.”

Prosiect y disgyblion
Bydd y prosiect dwyieithog yn cael ei gyflawni gan holl ddisgyblion yr ysgol ac ar draws pob adran a’r bwriad yw cynyddu ymwybyddiaeth am arwyddocâd y Rhyfel Byd Cyntaf fel digwyddiad sylweddol yn hanes yr 20fed ganrif ac am ei effaith ar Ogledd Ddwyrain Cymru.

Fel rhan o’r prosiect, mae adran hanes yr ysgol yn bwriadu sefydlu pwyllgor disgyblion, Grŵp Gwalia, a fydd yn arwain y prosiect gan gasglu’r holl waith ymchwil ynghyd a’i arddangos yn Fflint yng ngwanwyn 2014 gyda noson agored i lansio’r arddangosfa.

Wrth groesawu’r grant, dywedodd Owen Thomas, athro Hanes yn Ysgol Maes Garmon,

“Mae’r prosiect yma wedi hoelio sylw’r ysgol gyfan ac rydym mor ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein helpu i barhau gyda’n hymchwil ar y garreg filltir arwyddocaol hon. Fel ysgol roeddem yn teimlo ei bod hi’n hollbwysig bod disgyblion o bob oedran yn cymryd rhan yn nodi’r canmlwyddiant ac yn y dysgu am y frwydr ac am eu bod wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r cychwyn cyntaf pan roeddem yn ceisio am y grant, maent ar bigau drain eisiau dechrau’r ymchwil.”

Apêl gymunedol
Fel rhan o’r casgliad data am y Rhyfel Byd Cyntaf yn Sir y Fflint, mae disgyblion yr ysgol nawr yn galw ar bobl leol, a phobl led led Cymru, i fod yn rhan o’r prosiect gan rannu eu hatgofion a’u storiau o’r cyfnod. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir trwy’r prosiect yn cael ei hychwanegu at wefan coffa Fflint ac yn cyfrannu tuag at holl ddigwyddiadau coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y sir.

Ynghyd â theithiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae disgyblion yr ysgol hefyd yn bwriadu casglu arian tuag at ymgyrch Cofeb Mametz Wood trwy’r elw a chynhyrchir gan werthiant DVD a llyfr dwyieithog ar eu gwaith ymchwil. Y gobaith yw bydd disgyblion blwyddyn 12 yr ysgol wedyn yn gallu ymweld â’r safle brwydr Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngogledd Ffrainc. 

http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/GrantCDLibrosiectRhyfelBydCyntafYsgolMaesGarmon.aspx