Cronfa Dreftadaeth y Loteri: Cynorthwyo Cymru i Gofio 100 Mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf
27 / 10 / 2013I gyd-fynd â chyhoeddiad gan y Prif Weinidog ar raglen eang o weithgareddau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae CDL yn cadarnhau ei ymrwymiad parhaol i gynorthwyo pobl Cymru cofio a rhannu storiâu am y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r CDL yn chwarae rhan allweddol mewn rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau a chynlluniau i nodi canmlwyddiant y rhyfel rhwng 2014 ac 2018 ac yfory, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC yn cyhoeddi manylion y cynllun ynghyd ag amserlen digwyddiadau. Trwy’r rhaglen grant Rhyfel Cyntaf: ddoe a heddiw, mae cymunedau a grwpiau lleol ar hyd a lled Cymru eisoes wedi dechrau nodi’r garreg filltir hanesyddol mewn ffyrdd unigryw ac mae arian ychwanegol newydd ei ddynodi tuag at Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a thuag at gadwraeth cofebion ym Mhowys.
Mae grant £950,000 wedi ei ddynodi ar gyfer y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol a fydd yn defnyddio grant datblygu cychwynnol £32,000 i wneud gwelliannau i’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd sy’n cartrefu Llyfr Cenedlaethol y Cofio am y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd llyfr y cofio yn cael ei ddigideiddio gyda’r arian fel bod modd ei weld led led Cymru a bydd prosiect ymchwil yn edrych ar wybodaeth i helpu pobl o bob oedran deall profiadau Cymreig yn ystod y rhyfel a deall sut mae pobl bellach yn teimlo am wrthdaro.
Wrth groesawu’r grant, dywedodd Martin Pollard o Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, “Rydym yn credu ei fod yn holl bwysig bod pobl ar hyd a lled Cymru’n trafod beth mae gwrthdaro a heddwch yn golygu iddynt hwy heddiw fel ein bod gallu ceisio osgoi’r math o wrthdaro dinistriol yn y dyfodol. Roeddem yn teimlo felly ei bod hi’n bwysig caniatáu i bobl gwerthfawrogi treftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf Cymru, gan gynnwys Llyfr Cenedlaethol y Cofio, sy’n cael ei gadw yn y Deml Heddwch ac sy’n symbol coffaol o’r rhyfel yng Nghymru.”
Mae arian hefyd wedi cael ei ddynodi ar gyfer Prosiect Cofebion Rhyfel Powys 2014-2018: Arwydd o Barch lle bydd grant datblygu £51,000 yn cael ei ddefnyddio i adfywio 48 cofeb rhyfel ar draws y sir. Dynodir yr arian i Gyngor Sir Powys ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ‘pecynnau cadwraeth’ i gymunedau, ysgolion a grwpiau lleol ar hyd y sir i helpu nhw gofalu am a chadw eu cofebion lleol.
Bydd canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn dynodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes Cymru ac fe fydd Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn parhau i amlygu ei bwysigrwydd. Wrth bwysleisio arwyddocâd y canmlwyddiant, dywedodd Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Gronfa Dreftadaeth y Loteri, “Gyda diddordeb gan gymunedau’n uchel iawn, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri eisoes wedi dynodi grantiau i nifer o brosiectau eang yng Nghymru sydd eisiau ymchwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel yr ydym yn symud yn agosach at y canmlwyddiant, mae’n galonogol gweld gymaint o grwpiau’n edrych am fyrdd i gofio’r rhyfel yn eu hardaloedd a gwneud cyfraniad at deyrngedau cenedlaethol i’r cenedlaethau cafodd eu heffeithio’r uniongyrchol gan y gwrthdaro.”
Prosiectau eraill yng Nghymru wedi’u hariannu gan CDL
Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar drigolion Sir y Fflint Prosiect ysgol gyfan yn Ysgol Maes Garmon, Sir y Fflint, lle bydd disgyblion o bob oedran yn gwneud gwaith ymchwil eu hunain i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’i effeithiau pellgyrhaeddol ar drigolion yr ardal. Bydd y prosiect yn parhau am flwyddyn ac yn cael ei arwain gan ddisgyblion Blwyddyn 12 yr ysgol a fydd yn defnyddio’r grant £10,000 i lansio apêl leol a genedlaethol am storiâu personol am y rheini oedd yn byw yn Sir y Fflint yn ystod y rhyfel. Bydd ymweliadau â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eu helpu i wneud eu gwaith ymchwil. Yn dilyn casglu’r gwaith, bydd eu gwaith yn cael ei arddangos fel rhan o arddangosfa yn y dref ym Mehefin 2014 a bydd wedyn ar gael ar wefan coffau Fflint.
Cofio’r colledig – Caerffili Bydd disgyblion o Rhymney Comprehensive School, Caerffili yn archwilio ac yn dysgu am eu treftadaeth Rhyfel Byd Cyntaf wrth ymchwilio hanes y dynion a restrir ar gofeb sydd yn yr ysgol. Rhoddwyd £3,500 i’r ysgol a fydd yn eu helpu i sefydlu grŵp tu allan i oriau’r ysgol ar gyfer pobl o bob oedran o’r gymuned leol lle byddent yn ymchwilio hanes lleol. Fel rhan o waith y grŵp, byddent hefyd yn creu gwefan i nodi bywydau’r milwyr sydd wedi eu henwi ar y gofeb a byddent yn cymryd rhan yn nyluniad a chread mosaig.
Aberhonddu yn Cofio – Aberhonddu Dyma’r prosiect cyntaf yng Nghymru i dderbyn arian trwy’r rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw ac roedd aelodau o Gangen Hanes Teuluoedd Aberhonddu o Brifysgol y Drydedd Oes eisiau nodi canmlwyddiant y rhyfel gan greu hanes byr ar gyfer bob person sydd wedi eu henwi ar gofebion Aberhonddu a’r ardal gyfagos. Y gobaith yw, unwaith bydd y wybodaeth wedi ei gasglu am eu geni, addysg, bywyd gwaith ac am eu rhan yn y gwrthdaro, byddent wedyn yn gallu creu taflen gwybodaeth a fydd yn cael ei rannu’n lleol a gydag ymwelwyr i’r ardal.
Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru – Abertawe Roedd cartwnau J M Staniforth yn codi calonnau darllenwyr yr Western Mail yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a bydd y prosiect hwn yn digideiddio ei waith yn ystod y rhyfel ac yn ymchwilio agweddau’r cyhoedd yng Nghymru tuag at y rhyfel yn ystod y cyfnod yno. Bydd 1,350 o ddelweddau Staniforth yn cael eu hailgynhyrchu ar wefan rhyngweithiol. Bydd gwirfoddolwyr, a fydd yn cynnwys disgyblion ysgol, grwpiau cadét ac israddedigion o Brifysgol Abertawe, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith, gyda’r wefan orffenedig yn caniatáu i ddefnyddwyr gweld a rhannu’r cartwnau, ynghyd ag llwytho cartwnau eraill o’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r wefan.
Cofio’r Bobl Leol ag Aberthodd yn y Rhyfeloedd – Dinbych Mae teuluoedd yn Sir Dinbych wedi bod yn dysgu am eu perthnasau sydd a’u henwau ar dair cofeb rhyfel lleol yn Llangollen, Froncysylltau a Garth o Ryfel de Affrica, Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae gwirfoddolwyr o bob oedran wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect er mwyn sicrhau bod perthnasau a bu farw yn ystod y rhyfel yn cael eu cofio ac i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall effaith y rhyfel ar eu teuluoedd a’u cymunedau.
Park Place yn Cofio’r Rhyfel Mawr – Tredegar Roedd unarddeg enw ar gofeb mewn adeilad yn Nhredegar oedd yn arfer bod yn gapel wedi cyfareddu grŵp o bobl ifanc yn “Kidz R Us”, ganolfan celfyddydau berfformio. Fe wnaeth hyn arwain at brosiect ymchwil ar fywydau’r bechgyn a rhestrir ar y gofeb ac yna fe wnaeth y grŵp creu prosiect celf wedi ei selio ar eu darganfyddiadau gan ddefnyddio grant £23,000. Fe wnaeth dros ddeugain o bobl ifanc cymryd rhan yn y prosiect gan gynhyrchu ffilm ddogfennol ac arddangosfa am fywyd yn Nhredegar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaeth plant ieuengach hefyd cymryd rhan yn y prosiect gan greu cerflun o geffyl wedi ei ysbrydoli gan drip i Lundain i weld y ddrama “Warhorse”.
Gwybobaeth bellach
Cysylltwch â Naomi Williams, 029 2044 2020, naomi@positifgroup.co.uk
http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/RhyfelBydCyntafyngNghymru.aspx