Y Prif Weinidog yn lansio rhaglen goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru ac yn cyhoeddi £850 mil i’w wario ar adnoddau addysgol i gofio’r rhyfel
28 / 10 / 2013Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, y Rhaglen Fframwaith i Goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, wedi cael ei lansio’n swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd £850 mil yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r rhaglen addysgol a fydd yn nodi canmlwyddiant y rhyfel.
I weld y Rhaglen Fframwaith cliciwch yma.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Prif Weinidog yn lansiad swyddogol y rhaglen yn The Firing Line, Amgueddfa’r Milwr Cymreig, yng Nghastell Caerdydd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Gan mlynedd wedi iddo gychwyn ym 1914, mae’n bwysig inni gofio pob un a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r effaith fawr a gafodd y gwrthdaro ar ffurf y Gymru fodern. Ychydig iawn o bobl yng Nghymru na fydd wedi cael eu heffeithio gan etifeddiaeth barhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, p’un a ydyn nhw’n ymwybodol o hynny ai peidio. Dyna pam rydyn ni am i ddigwyddiadau addysgol a chymunedol chwarae rhan ganolog.”
“Dw i am i’r coffâd yma yng Nghymru gynnwys pawb, gyda digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol yn ogystal â digwyddiadau yn y gymuned. Rydyn ni am gyrraedd pob un a dw i’n eich annog i gyd i ymweld â gwefan newydd Cymru’n Cofio . Yno, cewch chi wybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau a chyllid a chewch eich cyfeirio hefyd at wasanaethau sy’n berthnasol i weithgareddau yng Nghymru.”
Yn ôl dymuniad y Prif Weinidog bydd y digwyddiadau hyn yn sail ar gyfer cofio’r rhyfel mewn addysg, a bydd £850 mil yn cael ei wario ar gynhyrchu adnoddau addysgol digidol ac i alluogi ysgolion i ddatblygu rhaglen addas o weithgareddau i nodi’r canmlwyddiant.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg:
“Mae sicrhau bod pobl ifanc yn deall y digwyddiadau a goblygiadau’r rhyfel yn un o amcanion allweddol y rhaglen goffáu. Bydd y cyllid rydyn ni’n ei neilltuo yn caniatáu i’r Llyfrgell Genedlaethol arwain ar brosiect pwysig i ddatblygu adnoddau dysgu dwyieithog, a fydd yn berthnasol ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys ‘ap’ arloesol a fydd yn ganllaw Cymreig i feysydd brwydrau.”
“Yn ogystal â hyn, bydd pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn cael £1,000 i ddatblygu prosiectau creadigol ac arloesol i goffáu’r rhyfel ac i ysgogi dadl a thrafodaeth. Rydyn ni wedi gadael i ysgolion benderfynu sut fyddai orau i wneud hyn ac mae’n bosibl y bydd ysgolion yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiectau i ddathlu’r canmlwyddiant.”
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Bydd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod a bydd cysylltiad rhyngddi â’r digwyddiadau mwy cyffredinol sy’n cael eu cynnal yng ngweddill y DU ac o amgylch y byd i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yn goffâd priodol i Gymru gyfan, a fydd yn talu teyrnged haeddiannol i’r bobl hynny a wnaeth aberthu cymaint.”
Ceir yma ddarn o’r ffilm o’r digwyddiad lansio a hefyd ddetholiad o’r areithiau a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog a Syr Deian Hopkins.
<iframe width=”560″ height=”315″ src=”//www.youtube.com/embed/Wxlyfyrz5WU?rel=0″ frameborder=”0″ allowfullscreen></iframe>