NEWYDDION

Ymgyrch Pabi’r Lleng Brydeinig Frenhinol mewn Partneriaeth â B&Q

04 / 11 / 2013

RBL and B&Q logoYn ystod yr ymgyrch genedlaethol bydd y Lleng yn gofyn i’r cyhoedd ac awdurdodau lleol brynu hadau pabi Fflandrys o B&Q i blannu yn eu tir eu hunain. Bydd yr ymgyrch yn gorchuddio’r Deyrnas Unedig â phabïau yn ystod cyfnod y canmlwyddiant i goffau pob un o’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd hadau ar gael yn siopau B&Q o ddydd Mercher 23ain Hydref 2013 hyd at 2014 a thu hwnt.

Gwerthir pob pecyn am £2 gyda £1 yn rhodd i’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Bydd pob siop yn stocio o leiaf 30 pecyn o hadau (bydd gan siopau mwy 60) ac fe’u hail-gyflenwir yn wythnosol. Gallwch ddod o hyd i’ch siop leol ar eu gwefan http://www.diy.com/diy/jsp/bq/templates/content_lookup.jsp?content=/bq/stores/store_finder.jsp&linktype=topnav_storefinder

Bydd yr arian a godir gan yr ymgyrch yn mynd tuag at yr £1.6 miliwn mae’r Lleng yn ei wario bob wythnos ar ofal a chefnogaeth hanfodol i gymuned y Lluoedd Arfog.

Gan mai nhw yw’r partner corfforaethol cenedlaethol ar gyfer Ymgyrch Pabi’r Canmlwyddiant, bydd B&Q yn gweithio gyda’r Lleng i lansio’r bartneriaeth ac i hyrwyddo’r hadau drwy gyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo ar-lein ac yn y wasg genedlaethol.

(Archebion Mawr: Os yw Awdurdodau Lleol neu Grwpiau Cymunedol eisiau cefnogi’r ymgyrch hon ac yr hoffent wneud archeb lwyth, rhaid iddynt fynd i’r man casglu ar gyfer gwsmeriaid yn eu siop leol i roi eu harcheb. Dylai’r rhain fod ar gael i’w casglu o fewn wythnos.)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: