NEWYDDION

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio ‘Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig’

28 / 11 / 2013
The National Library of Wales launches

O’r chwith i’r dde Cynghorydd Brendon Toomey, Gareth Chapman, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, John Griffiths AC, Llywodraeth Cymru Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Dr Paul O’Leary, Prifysgol Aberystwyth, Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, a John O’Shea, Prifathro y Coleg, Merthyr Tudful.

Lansiwyd archif ddigidol unigryw, Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig (cymru1914.org) yn Y Coleg Merthyr Tudful heddiw.

Datblygwyd Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig gan bartneriaeth wedi ei arwain gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda Archifau a Chasgliadau Arbennig Cymru (sef Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, BBC Cymru Wales, Casgliad y Werin Cymru a swyddfeydd archifau a chofnodion lleol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru sydd dan adain Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Arianwyd y prosiect gyda chymhorthdal o gynllun e-Gynnwys Jisc a gyda chefnogaeth y sefydliadau sy’n bartneriaid.

Croesawodd Huw Lewis y Gweinidog Addysg a Sgiliau lansiad y cynllun, gan ddweud:

‘Bu’r Llyfrgell yn ddarparwr dibynadwy o gynnwys digidol o’i chasgliadau ei hun ers ugain mlynedd, gan weithio ar gyfres o brosiectau cydweithredol. Mae ‘Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig’ yn esiampl  o gydweithredu Cymru gyfan sydd yn creu adnodd digidol newydd i’w ddefnyddio ar hyd a lled y byd, yn rhad ac am ddim, gan y sawl sydd â diddordeb yn y cyfnod pwysig hwn mewn hanes.

‘Mae Adnoddau Digidol a’r gallu i ddatgloi ein gorffennol i nifer o gynulleidfaoedd, yng Nghymru a thu hwnt i hynny. Defnyddir yr archif digidol arbennig hwn yn eang at bwrpas addysg ac ymchwil, yn arbennig felly gyda chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar y gorwel. Bydd yn dadorchuddio hanes cuddiedig y Rhyfel ac yn dangos ei effeithiau ar bob agwedd o fywyd Cymru.   Bydd yr archif yn cyfrannu’n fawr at goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru drwy ddarparu adnodd ar-lein cynhwysfawr ar gyfer yr holl sectorau addysg, ymchwilwyr hanes teulu a hanes lleol’.

Dywed Paola Marchionni, Rheolwr Rhaglen Ddigido Jisc ei bod:

‘wrth ei bodd fod Jisc wedi medru cefnogi datblygiad yr adnodd. Mae’n esiampl wych iawn o ddod â deunyddiau ynghyd o sawl lleoliad ffisegol a chreu casgliad rhithiol ohonynt,  ac o’r buddion i ymchwilwyr a’r cyhoedd o wneud hynny. Mae’r Llyfrgell a’i bartneriaid yn darparu adnodd gwerthfawr a hygyrch sydd a’r gallu i chwilio casgliadau o bapurau newydd, delweddau,  sain a deunyddiau archifol Cymraeg a Saesneg eu hiaith’

Yn ôl Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Mae’n fraint i’r Llyfrgell Genedlaethol fod yn arwain ar y prosiect pwysig ac unigryw hwn gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig Cymru. Rydym yn hollol sicr y bydd yr adnodd digidol arloesol hwn yn un amhrisiadwy ar gyfer dysgu, ymchwil ac ymgysylltiad cyhoeddus.

Ychwanegodd ei ddiolchiadau i’r Gweinidog am ei gefnogaeth ac i Jisc a gweddill y partneriaid. ‘Hebddynt hwy ni fyddai’r adnodd wedi gweld golau dydd’ meddai.

Yn ystod lansiad Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig  bu John Griffiths AC, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, gyhoeddi manylion am Raglen Partneriaeth Cymunedol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Bydd y rhaglen yn caniatáu mynediad i ragor o bobol ar hyd a lled Cymru at gasgliadau printiedig a gweledol helaeth y Llyfrgell. Gwnaed y cyhoeddiad yng nghwmni nifer o bartneriaid newydd y Llyfrgell ym Merthyr.