NEWYDDION

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn Helpu Llandudoch Rannu Hanesion Faciwîs

11 / 12 / 2013

HLF Logo image - LGEMae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi rhoi grant £78,000 i “Hanes Llandoch” i nodi effaith y ddwy Ryfel Byd ar ardal Llandudoch, Sir Benfro ac i helpu dychwelyd y rheiny a ddaeth i’r ardal fel faciwîs er mwyn clywed eu hanesion nhw. 

Bydd y prosiect hefyd yn galluogi trigolion lleol i edrych yn ôl ar y ddau Ryfel drwy’r calendr o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd allweddol, gan greu dealltwriaeth well o’u heffaith ar yr ardal.

Bydd yr arian hwn, wedi ei roi trwy’r rhaglen grant Ein Treftadaeth, yn galluogi pobl leol i ddysgu am yr holl wrthdaro ac yn cynnig cyfle iddynt fagu dealltwriaeth well o’r cyfnod allweddol hyn o’n hanes. Bydd gweithgareddau yn cynnwys cyfle i drigolion a gwirfoddolwyr fyw ar ddognau am wythnos ynghyd â chynnal nifer o arddangosfeydd.

Dywedodd Pennaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, Jennifer Stewart, “Mewn cyfnod lle mae’n sylw wedi ei hoelio ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’n wych gweld grwpiau cymunedau lleol fel Hanes Llandoch yn cymryd yr awenau ac yn datblygu prosiectau cyffrous eu hunain i ddynodi gwrthdaro’r gorffennol. Rwy’n falch iawn bydd arian CDL yn helpu’r gymuned ddarganfod am y cyfnod allweddol hwn a rhoi cyfle iddynt ddysgu yn uniongyrchol oddi wrth faciwîs am eu bywyd yn yr ardal.”

Dychwelyd Faciwîs
Bydd ystod eang o weithgareddau dwyieithog yn cael eu cynnal yn yr ardal, gan gynnwys gwahodd pumdeg faciwî, milwyr o America a chyd-garcharorion rhyfel Eidalaidd yn ôl i’r pentref ar gyfer arddangosfa a digwyddiad “Croeso Adref” lle bydd eu hanesion personol nhw a hanesion trigolion lleol yn cael eu rhannu. Y gobaith yw bydd gwrando ar agweddau gwahanol o’r rhyfel yn newid agweddau tuag at grwpiau gwahanol a’u heffeithiwyd gan y gwrthdaro.

Mae paratoadau ar gyfer y digwyddiad “Croeso Adref” eisoes wedi dechrau a bydd yn cynnwys rhai aelodau o’r 111 Awyrenwyr Ordnans Americanaidd a oedd wedi eu lleoli yng Nghastell Albro, Llandudoch er mwyn paratoi am laniadau D-Day. Bydd wythnos o weithgareddau yn cynnwys llwybrau treftadaeth a digwyddiadau wedi eu hanelu at annog pobl leol ac ymwelwyr i gymryd rhan mewn  gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bywyd yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil ymchwil sydd wedi ei gynnal trwy’r prosiect, y gobaith yw bydd treftadaeth rhyfel lleol wedi ei ddehongli a’i esbonio’n well gyda’r wybodaeth sydd wedi ei gasglu yna’n cael ei rannu gyda’r Tŷ Cerbyd lleol ynghyd a chael ei hychwanegu at wefan Casgliad y Werin Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, a noddodd digwyddiad diweddar yn y Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn arddangos sut mae cymunedau lleol yn gallu ceisio am arian CDL i ddynodi’r Rhyfel Byd Cyntaf, “Rwy’n hynod falch bod Hanes Llandoch wedi derbyn yr arian allweddol hwn. Bydd yr arian o ddiddordeb mawr i bobl Sir Benfro gan ei fod yn dynodi canrif ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ond bydd hefyd yn dod a phobl leol ynghyd i ddysgu am y digwyddiadau pwysig hyn yn hanes lleol.”

Coffau Profiadau’r Rhyfel
Rhan allweddol o’r prosiect yw ymchwilio’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ac mae’n creu cyfle unigryw i ddeall sut mae’r ddau ryfel wedi effeithio’r gymuned wledig hon. Mae’r rheiny sy’n rhedeg y prosiect yn awyddus i glywed storiâu o’r Ail Ryfel Byd a byddent yn gobeithio clywed gan rai oedd yn byw yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn ceisio casglu gwybodaeth i osod 50 enw colledig ar gofeb newydd.

Wrth groesawu’r arian, dywedodd Nia Siggins, trefnydd y prosiect, “Mae’r arian yma yn cael effaith sylweddol ar ein cynlluniau ar gyfer ein prosiect i amlygu treftadaeth ein hardal ac fe fydd yn ein galluogi ni i ddynodi a chofnodi atgofion byw o’r Ail Ryfel Byd tra mae’r cyfle yn bodoli. Rydym yn gobeithio bydd ein rhaglen o weithgareddau yn caniatáu i brofiadau Llandudoch cael eu cofnodi a’u cofio ar gyfer y dyfodol.”

Cynlluniau’r prosiect:

  • Arddangosfeydd â lluniau yn dangos beth oedd yn digwydd yn ystod y Rhyfel, drwy ddefnyddio tystiolaeth gan unigolion wedi eu heffeithio. 
  • Bydd cyn-faciwis a chyn-garcharwyr yn dod yn ôl i’r pentref gan rannu eu profiad personol drwy’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal. 
  • Bydd ymchwil am y faciwîs yn cael ei drosglwyddo mewn pecyn arbennig i ysgolion lleol er mwyn iddynt gynnal sioe ddrama. Byddai pecynnau dysgu hefyd yn cael eu rhoi er mwyn gallu gwella gwybodaeth. 
  • Bydd “profiad yr Ail Ryfel Byd” yn cael ei gynnal, lle bydd gwirfoddolwyr yn byw ar ddognau am wythnos. 
  • Bydd pob gweithgaredd yn ddwyieithog. 
  • Bydd enwau milwyr yn cael eu hychwanegu at gofgolofn newydd.

 

http://welsh.hlf.org.uk/news/Pages/Llandudoch.aspx