Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – ADFER COFEB I’R 38AIN ADRAN (GYMREIG) YNG NGHOED MAMETZ
19 / 12 / 2013Cafodd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ei gomisiynu gan Gangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin i adfer y Gofeb i’r 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoed Mametz yn gynharach eleni. Mae gweithgarwch codi arian wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser, a gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013) mae’r gwaith wedi dechrau erbyn hyn.
Mae cam un yn cynnwys symud y grisiau presennol, anaddas sy’n arwain o’r maes parcio i’r gofeb, a gosod grisiau newydd yn y llethr gyda llwyfan sy’n wynebu mynwent Flatiron Copse. Dechreuodd y gwaith ar y cam hwn ddiwedd mis Tachwedd, a’r gobaith yw y bydd y grisiau newydd yn eu lle erbyn mis Mawrth 2014; bydd y grisiau’n cael eu hadeiladu oddi ar y safle gan gontractwyr o Ffrainc.
Mar cam dau yn cynnwys adfer ac ailbaentio’r cerflun o’r Ddraig. Cafodd y Ddraig ei symud ar 9 Rhagfyr gan gynrychiolwyr o Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, dan oruchwyliaeth cynrychiolydd o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin. Mae’r cerflun wedi’i gludo i weithdy yn Ypres lle bydd yn cael ei lanhau, ei atgyweirio a’i ailbaentio’n unol â chyfarwyddiadau gwreiddiol y cerflunydd (David Petersen) cyn cael ei gludo’n ôl i Goed Mametz yn ystod gwanwyn 2014.
Bydd cam tri, y mae Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin wrthi’n codi arian ar ei gyfer, yn cynnwys tirlunio a phlannu planhigion ar y safle, a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad fydd yn gyfrifol am y gwaith hwnnw. Bydd angen plannu llwyni er mwyn helpu i glymu’r pridd a gorchuddio’r ddaear, a bydd blodau gwyllt ac ardaloedd o laswellt yn cael eu plannu hefyd.
Ar gyfer y cam olaf, mae Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin yn bwriadu sicrhau bod llawer o fylbiau cennin Pedr a phabïau’n cael eu plannu ar y safle.
Mae’r pentrefwyr lleol a Maer Mametz, Stéphane Brunel, wedi bod yn gefnogol tu hwnt i’r holl waith hwn. Mae’r Maer wedi sôn am y ddyled y mae ef a’r gymuned yn teimlo sydd arnynt am aberth y milwyr o Gymru yng Nghoed Mametz, ac am y ffaith eu bod yn edrych ymlaen at goffáu’r canmlwyddiant yn 2016. Mae’r gymuned leol wedi cyfrannu 40,000 Euro at y gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd sy’n arwain i’r gofeb a gwella’r cylch troi yn y maes parcio er mwyn darparu lle ar gyfer bysiau mawr. Yn ogystal, mae’r gymuned leol yn gobeithio gwella’r ffordd sy’n arwain i fynwent Flatiron Copse lle mae llawer o’r milwyr a laddwyd ym mis Gorffennaf 1916 wedi’u claddu, a gwella’r arwyddion ar gyfer y ddau safle.
Ym mis Medi 2013 ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones â’r gofeb a chyfarfu â Maer Mametz ac aelodau o’r gymuned leol. Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer coffáu’r canmlwyddiant ym mis Gorffennaf 2016 wedi dechrau erbyn hyn.
Dolenni cyswllt: