NEWYDDION

Cais am wybodaeth – Ffurflenni Hysbysu ynghylch Gweithgareddau Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

07 / 01 / 2014

Events and News feature holding image - 220x140

Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 wrthi’n crynhoi ac yn rhannu gwybodaeth am weithgareddau sy’n coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n digwydd yng Nghymru, boed ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol, neu sy’n gysylltiedig â Chymru.  I’r perwyl hwnnw, rydym wedi paratoi dwy ffurflen syml i’w llenwi’n electronig, y gellir nodi manylion arnynt a’u hanfon yn ôl i Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

 

© IWM (Q66092)

© IWM (Q66092)

Cwestiynau?

C. Beth y bydd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn ei wneud â’r data a gesglir?

A. Mae hynny’n dibynnu ar y dewisiadau a’r caniatâd a nodir ar y ffurflen. Bwriedir defnyddio’r data i hysbysebu’r digwyddiadau ar ein gwefan, eu hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol, eu cynnwys mewn llyfrynnau a chofnodi ystadegau.

 Ffurflenni:

1. Gweithgareddau Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf – Ffurflen Hysbysu ynghylch un gweithgaredd: er mwyn rhoi gwybod i ni am un digwyddiad yn unig.

2. Gweithgareddau Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf – Ffurflen Hysbysu ynghylch sawl gweithgaredd: er mwyn rhoi gwybod i ni am sawl digwyddiad, er enghraifft y digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan sefydliad mawr.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ac i ddychwelyd y ffurflen, cysylltwch â: cymruncofio-walesremembers1914-1918@wales.gsi.gov.uk