NEWYDDION

Y DIWEDDARAF am y Gofeb Ryfel newydd i gofio Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Langemark, Gwlad Belg

27 / 01 / 2014
© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

Ionawr 2014 – y newyddion diweddaraf:

Parhau mae’r gwaith ar y Gofeb newydd yn Langemark, Gwlad Belg, i gofio’r Cymry a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd pedwar o Gerrig Gleision Pennant eu cludo o Gymru i adeiladu’r gromlech ar Pilkem Ridge ger Langemark yn Fflandrys, ar ôl cael eu cloddio o chwarel Craig yr Hesg, ger Pontypridd yn haf 2013.  Ym mis Medi 2013, yn ystod ei ymweliad â Gwlad Belg a Ffrainc, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo hyd at £25,000 i warantu apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys. Yn ystod ei ymweliad â’r safle yn Langemark, cyflawnodd Prif Weinidog Cymru  y weithred symbolaidd o  dorri’r dywarchen gyntaf ar y safle, ar y cyd â Maer Langemark, Alain Wyffels.

© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

Yn ystod gaeaf 2013, gosodwyd y sylfeini concrit ar gyfer y gromlech, ac mae’r gwaith o greu gardd goffa i gyd-fynd â’r gromlech bellach yn mynd rhagddo. Bydd y gromlech yn cael ei chodi yng ngwanwyn 2014, yn barod ar gyfer gosod y cerflun o’r ddraig.

Mae’r gwaith o ddewis dyluniad terfynol ar gyfer y cerflun yn nesáu, a diwedd y mis hwn (Ionawr 2014) bydd y grŵp ymgyrchu yn edrych ar y dyluniadau sydd wedi eu cynnig gan artistiaid o Gymru. Ar ôl dewis, bydd y cerflun yn cael ei greu a’i gludo i’r safle lle bydd yn cael ei roi i wylio’n warchodol dros feysydd brwydro’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Codi arian:

Mae’r grŵp ymgyrchu wedi bod wrthi’n codi arian, drwy deithiau beicio, teithiau cerdded o gwmpas Cymru a chyngherddau, ond mae angen help arnynt yn dal i fod er mwyn cyrraedd y nod ariannol. Os hoffech chi gyfrannu at yr ymgyrch, ewch i wefan y grŵp.

© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

© Cofeb y Cymry yn Fflandrys / Welsh Memorial in Flanders

Dadorchuddio’r gofeb:

Cynhelir gwasanaeth wrth ddadorchuddio’r gofeb ym mis Awst 2014. Bydd y rhaglen lawn ar gyfer yr achlysur yn cael ei chyhoeddi maes o law.

I gael rhagor o wybodaeth am Gofeb y Cymry yn Fflandrys, cliciwch ar: http://www.welshmemorialflanders.co.uk.

Gwefan a dolenni’r cyfryngau cymdeithasol:

*Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol