Y Prif Weinidog yn cyhoeddi dyluniad cofeb Gymreig y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwlad Belg
11 / 02 / 2014Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y dyluniad arfaethedig ar gyfer cofeb newydd i goffáu’r milwyr o Gymru a frwydrodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y gofeb yn cael ei chodi ym mhentref Langemark yng Ngwlad Belg, a’i sylfaen fydd pedair carreg las Pennant o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd, a fydd yn ffurfio cromlech gyda draig goch o efydd ar ei phen.
Mae’r gofeb yn ffrwyth llafur tair blynedd o ymgyrchu gan bwyllgor Cymreig dan arweiniad Peter Jones a phwyllgor yn Fflandrys dan arweiniad Erwin Ureel, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae’r ymgyrch wedi codi dros £100,000.
Cafodd Sculpture Cymru bedwar dyluniad i’w hystyried, ac mae’r dyluniad llwyddiannus gan Lee Odishow, gŵr 31 oed o Ddinbych-y-pysgod a chyn-fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr, lle mae bellach yn fentor i fyfyrwyr. Mae ei waith comisiwn diweddar yn cynnwys cerflun o Lt. Colonel Rupert Thorneloe, MBE – Comisiwn y Gwarchodlu Cymreig i godi arian ar gyfer Apêl Afghanistan ac elusen Combat Stress. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Gerflunio Genedlaethol Broomhill 2011 ac mae wedi cael lle mewn nifer o arddangosfeydd grŵp gyda Sculpture Cymru. Yn 2013, cafodd ei ddewis i arddangos yn Medal Project XX (20) Cymdeithas Medal Celf Prydain yn Llundain.
Wrth siarad am ei ddyluniad buddugol, dywedodd Lee Odishow:
“Mae’r ddraig goch yn symbol o Gymru ac rwy’n gobeithio bod fy ngherflun ar gyfer y gofeb yn Fflandrys yn adlewyrchu hyn. Rwy’n fwriadol wedi dewis efelychu’r ddraig fel y’i gwelir ar y faner fel bod pawb sy’n ymweld â’r safle’n gallu ei hadnabod yn rhwydd.”
Bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones ar ymweliad ym mis Medi â safle arfaethedig y gofeb. Dywedodd heddiw:
“Rwy’n falch o gael cyhoeddi dyluniad buddugol Lee Odishow ar gyfer y gofeb hon, a fydd yn deyrnged ar hyd yr oesoedd i’r Cymry a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gan mai dyma fydd y gofeb genedlaethol gyntaf y tu allan i Gymru, mae’n addas y bydd yn cael ei gwneud o gerrig o Gymru, gyda’r ddraig goch yn goron falch arni.”
Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, a oedd yn gyfrifol am chwilio am artist ochr yn ochr â Sculpture Cymru:
“Mae Lee wedi mynd ati’n gwbl broffesiynol i wireddu’r comisiwn pwysig hwn i Gymru a’r bobl yn y rhan hon o Wlad Belg. Mae wedi ymateb yn rhagorol i’r briff. Mae ei ddyluniad yn ffyrnig ac yn hardd fel ei gilydd, a bydd y manylder yn arbennig. Er fod ei waith yn gyfoes iawn, mae hefyd yn bwriadu efelychu gwaith cerflunwyr mawr y gorffennol, fel y gwelir yng ngherfluniau dechrau’r ugeinfed ganrif ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd a’r gofeb ryfel yno.”
Dywedodd Lyndon Mably, Cadeirydd Sculpture Cymru,
“Roedd y dasg hon o greu rhestr fer o blith y cerflunwyr rhagorol a dawnus yma yng Nghymru yn her ac yn fwynhad. Roedd syniadau’r holl artistiaid ar y rhestr fer yn ddiddorol iawn, ond dim ond draig Lee lwyddodd i gyfleu hanfod y briff ac ysbryd cryf a balch y Cymry.”
Dywedodd Peter Jones o Ymgyrch Cofeb Cymru yn Fflandrys:
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch ac i’r holl sefydliadau sydd wedi gweithio i godi ei phroffil. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar y gofeb ac mae’r gromlech wedi cael ei chwblhau ar y safle.”