NEWYDDION

Diweddariad gan yr Athro Syr Deian Hopkin, Cynghorydd Arbenigol Prif Weinidog Cymru ar y Rhyfel Byd Cyntaf

17 / 02 / 2014

Treuliodd yr Athro Syr Deian Hopkin ddau ddiwrnod (5 a 6 Chwefror 2014) yng Ngwlad Belg a Ffrainc, yn cyfarfod â gwleidyddion lleol, academyddion, tywyswyr meysydd brwydr, diplomyddion a phobl leol. Aeth Yr Athro Syr Deian Hopkin ar y daith i gyfarfod â phobl gyswllt allweddol ar y Cyfandir ac i hybu’r berthynas glos sydd gan Gymru â phobl Gwlad Belg a Ffrainc. Isod sonnir am rai rhannau o’i daith:

COFEB LANGEMARK

Exhibition at the Sportsman BarYn ddiweddar bu Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, yr Athro Syr Deian Hopkin, ar ymweliad â safle’r gofeb sy’n cael ei hadeiladu yn Langemark. Erbyn hyn mae’r cerrig sy’n ffurfio’r gromlech, ac y caiff y ddraig efydd newydd ei gosod arnynt, wedi cael eu rhoi at ei gilydd ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y safle ei hun i ddarparu mynediad da a mannau parcio. Mae’r Sportsman Bar ar draws y ffordd yn gartref i arddangosfa ardderchog o ddeunyddiau sy’n ymwneud â Hedd Wyn ei hun ac ymgyrch y Cymry ar Gefnen Pilckem yn Nhrydedd Frwydr Ypres (Passchendaele). Mae’r gymuned leol wedi bod yn gefnogol iawn ac yn ystyried y berthynas â Chymru’n rhan ganolog o’u hanes diweddar, ac mae brwdfrydedd mawr ynghylch y seremoni gysegru a gynhelir ym mis Awst.    

ADNEWYDDU COFEB MAMETZ

Mametz 6 Feb 2014 with the MayorYn ystod ei ymweliad diweddar â Gwlad Belg a Ffrainc, cyfarfu’r Athro Syr Deian Hopkin â Maer Mametz, Stephane Brunel, sydd wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw yn y rhaglen i wella’r gofeb i’r 38ain Adran Gymreig yng Nghoedwig Mametz, lleoliad y frwydr enfawr yn 1916. Mae mynediad i’r safle anghysbell wedi cael ei wella’n fawr, mae cylch troi wedi cael ei adeiladu ac mae lle’n cael ei greu ar gyfer mwy o geir a bysiau. Yn y cyfamser mae’r ddraig enwog a ddyluniwyd gan David Peterson wedi cael ei symud i ffwrdd dros dro i gael ei hadfer, ond bydd yn cael ei hail-godi mewn da bryd ar gyfer y seremonïau mawr y bwriedir eu cynnal yn 2016. Mae cymuned Mametz wedi gwneud cyfraniad sylweddol, yn ariannol ac yn bersonol, i’r gwaith hwn, a thrwy hynny wedi cadarnhau’n fwy byth y berthynas, oedd eisoes yn gryf, rhyngddynt hwy a Chymru.