Prif Weinidog Cymru’n rhoi teyrnged i Filwr Dienw o’r Unol Daleithiau
27 / 02 / 2014Fel rhan o’i ymweliad â’r Unol Daleithiau yr wythnos hon, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi gosod torch ar ran pobl Cymru ar fedd y Milwr Dienw ym Mynwent Genedlaethol Arlington, Virginia.
Mae’r bedd wedi’i gysegru i aelodau o’r lluoedd arfog Americanaidd a fu farw ar wasanaeth gweithredol heb i’w holion gael eu hadfer na’u henwi. Mae milwyr dienw o’r Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Korea wedi’u claddu yn y bedd. Cafodd y cyntaf o’r rhain – milwr Americanaidd o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ei gladdu yno yn 1921.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Gall Cymru a’r Unol Daleithiau ymfalchïo yn eu gwasanaeth ffyddlon yn y lluoedd arfog. Mawr yw ein dyled i’n lluoedd arfog ac i’n cyn-filwyr a braint ac anrhydedd yw dod i Arlington i ddangos parch i’r Milwr Dienw, a hynny yn ymyl ei fedd.
“Mae’n arbennig o briodol gwneud hynny yn y flwyddyn pan fyddom yn nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
“Bydd rhaglen goffa Cymru ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918’, a fydd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau coffa ehangach ledled y byd, yn rhoi teyrnged i aberth y lluoedd arfog – aberth sy’n cael ei gydnabod gan bob un ohonom. Yn ogystal, bydd y rhaglen goffa’n helpu i sicrhau gwaddol addysgol hirhoedlog yn sgil digwyddiadau’r rhyfel.”
Cafodd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ei lansio gan y Prif Weinidog y llynedd, pan gyhoeddodd £850,000 tuag at gefnogi gwaddol addysgol coffáu’r rhyfel. Mae llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i gyfrannu arian at adeiladu cofeb newydd i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwlad Belg er mwyn cofio pawb o Gymru a oedd yn rhan o’r rhyfel ac er mwyn ailwampio cofeb sy’n bodoli eisoes yn Ffrainc.
Mynwent Genedlaethol Arlington yw gorffwysfan olaf mwy na 400,000 o aelodau o luoedd arfog yr Unol Daleithiau – a fu farw wrth wasanaethau neu ar ôl ymddeol, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd. Lleolir y fynwent mewn safle 624 erw o faint ar hyn o bryd.
Mae gan y fynwent gysylltiadau â Chymru hefyd. Ar 8 Mawrth 2013, cafodd olion dau aelod o griw llong ryfel sifil yr Unol Daleithiau, yr USS Monitor, eu claddu yn Arlington. Roedd olion y ddau ddyn wedi cael eu tynnu allan o weddillion llong yr USS Monitor ond ni fu modd i ymchwilwyr gadarnhau yn union pwy oeddent. Er hynny, credir mai milwr o Gymru o’r enw Robert Williams oedd un o’r dynion. Cafodd ei eni yng Nghymru yn 1832 a’i fagu yno cyn ymfudo rai blynyddoedd wedyn i’r Unol Daleithiau.