NEWYDDION

Rhyfel Byd Cyntaf – ‘Cymru dros Heddwch’

06 / 03 / 2014

Dywedir yn aml fod Cymru yn wlad sy’n gwerthfawrogi heddwch – ond beth yw’r dystiolaeth?

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y genedl yn dod at ei gilydd i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd effaith y Rhyfel ar gymunedau a theuluoedd yn drychinebus. Sut cafodd ein cymunedau eu heffeithio, a sut mae pobl yng Nghymru wedi cyfrannu at heddwch – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang?

Gan ddefnyddio’r Rhyfel Byd Cyntaf fel man cychwyn, bydd Cymru dros Heddwch / Wales for Peace yn galluogi pobl ledled Cymru i archwilio a rhannu ein treftadaeth heddwch dros y 100 mlynedd diwethaf.

Boed drwy straeon bywyd o ffigyrau enwog fel yr Arglwydd David Davies neu hanesion cudd unigolion neu fudiadau sydd wedi gweithio i oresgyn gwrthdaro yn ein cymunedau, nod y prosiect yw astudio sut mae pobl yng Nghymru heddiw yn ymdeimlo â’r gorffennol hwn, a sut mae’n effeithio ar eu teimladau am ryfel ac am sicrhau heddwch.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ariannu WCIA i ddatblygu Cymru dros Heddwch i fod yn brosiect llawn erbyn mis Mehefin 2014.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod y prosiect yn cwrdd ag anghenion y cwricwlwm, athrawon a dysgwyr.
Lleisiwch eich barn – llenwch ein harolwg ar-lein erbyn 9 Mawrth ac fe gewch gyfle i ennill tocynnau rhodd £50 Love2Shop fel rhan o’n cystadleuaeth.*

HLF_wales_for_peace    WCIA_wales_for_peace

 

Partneriaeth Cymru dros Heddwch / Wales for Peace:

Prifysgol Aberystwyth, Academi Heddwch Cymru/Wales Peace Institute Initiative, Amgueddfa Cymru/National Museum Wales, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas y Cymod, Sefydliad Coffa David Davies, Prifysgol Caerfaddon, Urdd Gobaith Cymru

 

*Telerau ac Amodau: 
1.  Os hoffech gystadlu, dylech lenwi’r arolwg erbyn 9 Mawrth.
2.  Does dim angen archebu. Mae mynediad am ddim.
3.  Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost neu dros y ffôn o fewn 14 diwrnod ar ôl i’r enillydd gael ei benderfynu.
4.  Dim ond i gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig y bydd gwobrau’n cael eu hanfon.
5.  Dim ond un mynediad fesul person.
6.  Nid yw’r canlynol yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth: staff, ymddiriedolwyr, interniaid neu wirfoddolwyr WCIA; pobl flaenllaw yn sefydliadau partner Cymru dros Heddwch / Wales for Peace.
7.  Rydym yn cadw’r hawl i gyhoeddi enwau enillwyr yn ein cylchlythyrau ac ar ein gwefan.
8. Ni roddir arian fel dewis amgen.
9  Rhaid i ymgeiswyr dan 18 oed gael caniatâd eu rhiant neu warcheidwad.
10. Nid yw WCIA yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gyflwr y gwobrau.