Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dyfarnu £9,200 i Gyfeillion Awstin Sant Penarth i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
12 / 03 / 2014Heddiw mae Cyfeillion St Augustine wedi derbyn £9,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer y prosiect, “World War One Roll of Honour – Restoration and Remembrance” yn Eglwys Awstin Sant, Penarth.
Dyfarnwyd trwy rhaglen CDL “Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw”, a bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adfer ac ail-euro Rhestr y Gwroniaid ar wal orllewinol yr eglwys, ynghyd â chofnodi ac archebu manylion bywydau a theuluoedd y dynion ar y Rhestr.
I nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd y prosiect, yn ogystal â sicrhau cadwraeth y gofeb ffisegol gwych i arwriaeth y rhai a fu farw, hefyd yn galluogi pobl lleol i ddod at ei gilydd i gadw atgofion a threftadaeth ohonynt a’u teuluoedd. Bydd gwirfoddolwyr yn casglu lluniau, toriadau papur newydd, dogfennau, llythyrau, atgofion teuluol ac yn y blaen, i greu arddangosfeydd, a bydd yn dod â phobl at ei gilydd mewn digwyddiadau cymunedol sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei recordio’n ddigidol mewn archif ar-lein. Dylai hyn i gyd helpu i ddod a profiadau ac aberthau cenhedlaeth o ddynion ifanc 1914-18, a dioddefiadau eu teuluoedd yn fyw i bobl o bob oedran.
Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Tricia Griffiths, Cadeirydd y Cyfeillion:
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi derbyn cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a gallwn yn awr fynd ymlaen yn hyderus gyda ein cynlluniau helaeth ar gyfer y prosiect hwn. Yr ydym wedi cytuno, fel ein cyfran o’r prosiect, i gyfrannu o leiaf £2000, felly mae ein hymdrechion codi arian, er ychydig yn llai brysiog, yn ddi-dor.”
Yn esbonio pwysigrwydd cefnogaeth CDL, dywedodd Pennaeth y CDL yng Nghymru, Jennifer Stewart,
“Mae effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, ac yn cyffwrdd a llunio pob cornel o’r DU a thu hwnt. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri eisoes wedi buddsoddi mwy na £46miliwn mewn prosiectau – bach a mawr – sy’n nodi’r Canmlwyddiant byd-eang hwn; gyda ein rhaglen grantiau bach newydd, rydym yn galluogi hyd yn oed mwy o gymunedau fel y rhai sy’n ymwneud â Rhestr Awstin Sant i archwilio etifeddiaeth barhaus y gwrthdaro hwn a helpu pobl ifanc leol yn arbennig i ehangu eu dealltwriaeth o sut y mae wedi dylanwadu ar ein byd modern.”