CDL yn dyfarnu £9,900 i’r prosiect ‘Tenby Remembers’ i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ninbych-y-Pysgod
12 / 03 / 2014Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod yn falch o gyhoeddi grant o £9,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer prosiect ymchwil o’r enw ‘Tenby Remembers’.

Neil Westerman, Curadur Anrhydeddus Amgueddfa Dinbych y Pysgod yn dal Rhestr y Gwroniaid o 1916 gyda gwirfoddolwr Kevin Thomas © HLF
Dyfarnwyd trwy rhaglen CDL Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, a bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Rhestr y Gwroniaid a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 1916 gan y papur newydd Tenby and County News.
Mae’r Rhestr yn nodi holl ddynion Dinbych-y-Pysgod a wirfoddolodd am wasanaeth cyn cyflwyno consgripsiwn yn 1916. Bydd y prosiect yn ymgymryd ag ymchwil i fywydau y gwirfoddolwyr gan arwain at arddangosfeydd amgueddfa newydd a chyhoeddi llyfr gyda manylion bywgraffyddol y milwyr, morwyr ac awyrenwyr. Bydd pecyn addysg yn cael ei gynhyrchu ar gyfer ysgolion lleol i helpu i egluro’r effaith a gafodd y rhyfel ar drefi bach fel Dinbych-y-Pysgod a sut y mae’n helpu i lunio’r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.
Bydd y prosiect hwn o ddiddordeb mawr i deuluoedd Dinbych-y-Pysgod, gan y bydd llawer o’u hynafiaid yn cael eu henwi yn Rhestr y Gwroniaid. Mae’n cael ei gynllunio i gynnwys y gymuned a sefydliadau fel Cymdeithas Hanes Dinbych-y-Pysgod â’r ymchwil leol yn ystod misoedd yr haf.
Yn ogystal â chynnwys Dinbych-y-Pysgod bydd y tîm hefyd yn ymchwilio bywydau unigolion a enwir ar y cofebion rhyfel yn mhentrefi cyfagos Penalun a Saundersfoot.
Wrth sôn am y ddyfarniad, dywedodd Neil Westerman, Curadur Anrhydeddus Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod,
“Rydym yn hynod o falch o fod wedi derbyn cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri i hwyluso’r ymchwil pwysig hwn i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfa yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Y cam cyntaf fydd penodi cynorthwy-ydd arweinydd prosiect/ ymchwil i gyd-drefnu’r prosiect.”
Yn esbonio pwysigrwydd cefnogaeth CDL, dywedodd pennaeth y CDL yng Nghymru, Jennifer Stewart,
“Mae effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, yn cyffwrdd a llunio pob cornel o’r DU a thu hwnt. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri eisoes wedi buddsoddi mwy na £46miliwn mewn prosiectau – bach a mawr – sy’n nodi’r Canmlwyddiant byd-eang hwn; gyda ein rhaglen grantiau bach newydd, rydym yn galluogi hyd yn oed mwy o gymunedau fel y rhai sy’n ymwneud yn ‘Tenby Remembers’ i archwilio etifeddiaeth y gwrthdaro hwn a helpu pobl ifanc lleol yn arbennig i ehangu eu dealltwriaeth o sut y mae wedi dylanwadu ar ein byd modern.”