AMGUEDDFA Y FFIWSILWYR BRENHINOL CYMREIG
13 / 03 / 2014Mae Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ceisio dod â milwyr y FfBC a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ȏl at ei gilydd. Mae yn chwilio am luniau y milwyr a ddisgynnodd er mwyn eu harddangos yn yr Amgueddfa yng Nghaernarfon ar ganmlwyddiant eu marwolaeth. Mae hon yn dasg enfawr gan i dros 10,000 o filwyr FfBC golli eu bywydau.
Gallwch chi helpu drwy gysylltu ȃ’r Amgueddfa a gyrru copi o lun aelod o’r teulu oedd yn y FfBC yn y Rhyfel Byd Cyntaf a drwy adael i pawb wybod am broject yr Amgueddfa er mwyn cael y neges allan i bawb all fod o help.
Cysylltwch gyda’r Amgueddfa : Amgueddfa y RWF, Castell Caernarfon, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2AY Ffôn: 01286 673362 / E Bost: rwfmuseum1@btconnect.com