GALWAD I WIRFODDOLWYR LEDLED CYMRU: HELPWCH DDOD O HYD I HANES COLL Y RHYFEL BYD CYNTAF!
14 / 03 / 2014
Mae pobl leol ledled Cymru’n cael eu hannog i chwarae eu rhan mewn ymgyrch hanfodol a fydd yn datgloi cyfrinachau lleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan sicrhau bod eu lle mewn hanes yn cael ei gofnodi er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Yr wythnos hon yw dechrau Treftadaeth Ymgyrch Gartref 1914-18, sef ymgyrch y mae Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA), Cadw, English Heritage, Historic Scotland, a phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig yn cydweithio arni er mwyn cofnodi gweddillion ffisegol y rhyfel yn y gwledydd cartref. Bydd yn cyfuno’r cofnodion a’r archifau sydd eisoes yn bod a gwybodaeth leol pobl er mwyn llenwi’r bylchau gan gofnodi gweddillion y rhyfel sy’n dal o’n cwmpas heddiw yn iawn am y tro cyntaf.
Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith helaeth ledled Cymru – ni chafodd unman lonydd wrth i’r wlad gyfan baratoi i gyfrannu at ymdrech y rhyfel. Gan mlynedd wedyn mae’r genhedlaeth a fu’n dyst iddo bron â darfod, a’r hyn sydd ar ôl yw’r gweddillion ffisegol – adeiladau, tirluniau ac arteffactau. Mae gan archaeoleg ran bwysig i’w chwarae o ran deall a chofio’r rhyfel byd-eang hwn.
Bellach mae Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru yn galw ar wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod ymlaen i helpu i ymchwilio, adnabod a chofnodi tirluniau, adeiladau a strwythurau a fu’n chwarae rhan allweddol yn y rhyfel.
Galwodd Dan Snow, Llywydd Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA) ar i wirfoddolwyr ymuno ag ymgyrch Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref, gan ddweud:
“Y nod sydd gennyn ni yw cofnodi a gwarchod safleoedd, adeiladau a strwythurau gwerthfawr – gwersylloedd, neuaddau ymarfer, ffatrïoedd a mannau gwylio er enghraifft, cyn iddyn nhw a’r storïau y maen nhw’n tystio iddyn nhw gael eu colli am byth. Bydd ein gwirfoddolwyr ni’n chwilio’n ddyfal yn ein trefi, ein pentrefi, ein cefn gwlad a’n traethau i ddod o hyd i fannau lleol o’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd heb gael eu cynnwys yn y cofnodion. Fe fyddan nhw’n uwchlwytho sylwadau am eu canfyddiadau i ap sydd wedi’i ddylunio’n unswydd, ynghyd â ffotograffau a dogfennau hanesyddol a fydd i’w gweld wedyn ar fap ar-lein er mwyn agor effaith y rhyfel ar ein tirlun i bawb.”
Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant:
“Mae Treftadaeth Ymgyrch Gartref 1914-18 yn brosiect gwirioneddol dda a gwerthfawr. Cafodd cwrs hanes ei newid gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a rhan Prydain a’r Gymanwlad ynddo. Bydd canfod a gwarchod safleoedd ac adeiladau o’r cyfnod hwnnw a’u hadnabod nhw i’r cyhoedd yn helpu i ddod â’r rhan honno o’n hanes cenedlaethol ni’n fyw i genedlaethau’r dyfodol.
“Felly rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl, ifanc a hen o bob rhan o’r wlad, yn cymryd rhan. Grwpiau hanes lleol a hanes teuluol, prosiectau canmlwyddiant yn y cymunedau a’r siroedd, ysgolion, pobl ifanc, y rhai sydd â diddordeb yn y rhan a chwaraewyd gan fenywod neu gan gymunedau’r Gymanwlad – bydd yna adeiladau a safleoedd i’w darganfod sy’n golygu rhywbeth i bawb.”
Ychwanegodd Jon Berry, Uwch Arolygydd Henebion ac Archaeoleg Cadw:
“Astudio cymdeithas y gorffennol drwy ddiwylliant materol yw archaeoleg. Mae hyn yn cynnwys tirluniau, adeiladau, strwythurau, argloddiau, nodweddion sydd wedi’u claddu, arteffactau a dogfennau. Gall astudio’r gweddillion hyn ein helpu i ddeall effaith y rhyfel ar gymunedau a thirlun Cymru. Wrth inni baratoi i gofio digwyddiadau can mlynedd yn ôl, fu hi erioed yn adeg fwy priodol i gymunedau ledled y wlad gymryd rhan yn y rhan yma o’n hanes ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’r partneriaid eraill yn y prosiect i sicrhau bod Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref yn llwyddo.”
Sut i gymryd rhan
Yn ystod blynyddoedd y canmlwyddiant gallwch ymuno â phrosiectau ledled Cymru i ganfod, adnabod a deall safleoedd sy’n ymwneud â’r ymateb milwrol neu’r ymateb sifil i ryfel.
Mae Cyngor Archaeoleg Prydain wedi datblygu pecyn cymorth cofnodi a chanllawiau ar-lein i’ch helpu i gofnodi gweddillion y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru i gyd yn cydlynu amrediad o weithgareddau a digwyddiadau ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Archaeolegol leol i gael rhagor o wybodaeth.
Cofrestrwch ar wefan Treftadaeth Ymgyrch Gartref Cyngor Archaeoleg Prydain er mwyn cyrchu’r pecyn cymorth cofnodi, y canllawiau a’r adnoddau ar-lein, gan gynnwys ap at gofnodi safleoedd yn y maes a map ac oriel ffotograffau o safleoedd sydd newydd gael eu cofnodi. www.homefrontlegacy.org.uk Twitter @homefrontlegacy