NEWYDDION

Cynllun Cofebau Rhyfel am ddiogelu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf

27 / 03 / 2014

logo_enMae cynllun newydd i ddiogelu a dathlu cofebau rhyfel Cymru wedi’i lansio gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon mewn cynhadledd yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae o leiaf 3,000 o gofebau rhyfel yn hysbys yng Nghymru, bob un yn adrodd stori am fywydau a gollwyd a theuluoedd a chymunedau a chwalwyd gan effeithiau rhyfel. Maen nhw’n dal yn ganolbwynt o ran coffâd ac mae’n hanfodol eu cadw a gofalu amdanyn nhw er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu cof y rhai a roddodd eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad.

Mae’r rhaglen gadwraeth, o dan arweiniad Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn werth £400,000 a’r nod yw gofalu am gofebau rhyfel leded Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Cofebau Rhyfel, a bydd yn helpu i ddiogelu cofebau i’r cenedlaethau sydd i ddod, ac mae grantiau o hyd at 70% o’r costau cymwys (hyd at uchafswm o £10,000) ar gael at waith cadw a thrwsio.

Gall  pawb chwarae rhan i ofalu am gofebau rhyfel ac mae Cadw ac Ymddiriedolaeth y Cofebau Rhyfel yn annog grwpiau gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned i gymryd rhan.

I helpu i sicrhau bod pobl yn gwybod y ffordd orau i ofalu am eu cofeb ryfel leol, mae Cadw wedi llunio Gofalu am Gofebau Rhyfel yng Nghymru, sy’n esbonio’u harwyddocâd a sut i greu cynllun cynnal-a-chadw.  Mae canllawiau technegol ar gael hefyd ar wefan Cadw, sy’n cynnig cyngor manylach am gadwraeth a sut i ofalu am gofebau rhyfel a phryd i ofyn am gymorth arbenigol.

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon:

“Mae cofebau rhyfel yn atgof ffisegol am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bron bob cymuned yng Nghymru. Mae’n hanfodol gofalu am y cofebau hyn er mwyn sicrhau ein bod ni’n dal i anrhydeddu’r miloedd o ddynion a menywod cyffredin o Gymru a gafodd eu lladd yn y rhyfel, neu y cafodd eu heffeithio oherwydd y rhyfel. Dyma pam yr hoffwn i annog cymunedau lleol i wneud cais am grant i helpu i gadw’r cofebau pwysig iawn yma.’

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac i lawrlwytho’r ffurflen i wneud cais am grant a’r canllawiau, ewch i ein dudalen ar Grantiau ar Gyfer Cofebion Rhyfel neu cysylltwch â Cadw ar 01443 336000.

Mae’r cynllun yn rhan o Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918, sef y rhaglen i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf o dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol ledled Cymru.

Bydd Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918 yn datblygu dros y pedair blynedd nesaf ac yn cysylltu â’r cofio ehangach yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf ledled y Deyrnas Unedig a’r byd. Bydd yn goffâd addas i Gymru gyfan a fydd yn talu teyrnged i’r bobl hynny y mae’n gywir cofio am eu haberth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.cymruncofio.org.