NEWYDDION

Plannu pabïau yn amgueddfeydd Caerdydd i gofio can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf

25 / 04 / 2014
© Amgueddfa Cymru / National Museum Wales

© Amgueddfa Cymru / National Museum Wales

Mae rhaglen bedair mlynedd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn coffau 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dechrau o ddifrif ddoe (dydd Llun 7 Ebrill) wrth i’r staff hau hadau pabi i gofio pawb sydd wedi marw mewn rhyfel. Bydd y blodau yn atgof blynyddol yn ystod y cyfnod coffa, ac yn fan i gyfarfod a myfyrio.

Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chyhoeddiadau gan saith amgueddfa genedlaethol Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Dros y pedair mlynedd nesaf bydd Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag ymwelwyr i edrych ar ymateb pobl Cymru i’r alwad i ryfel, gan drafod yr effaith ar y bobl ar lawr gwlad a’r rhai oedd dramor yn ymladd ac yn gweithio ym merw’r brwydro. Byddwn hefyd yn edrych ar y newid yn sgiliau, agwedd a chred y bobl yn ystod y rhyfel ac yn yr heddwch a ddilynodd.

Meddai Chris Cleal, Pennaeth Botaneg Amgueddfa Cymru :

“Byddwn ni’n plannu cannoedd o hadau pabi yn y saith amgueddfa. Dylai’r blodau ddechrau blaguro dros fisoedd yr haf a thrwy gydol y cyfnod coffau.

“Mae ein rhaglen goffau yn rhan allweddol o raglen genedlaethol Llywodraeth Cymru i nodi’r canmlwyddiant, Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn adrodd hanes pobl Cymru ac yn edrych ar effaith unigryw y Rhyfel Byd Cyntaf ar fywyd Cymru.”

Cydlynir yr ymgyrch blannu gan B&Q a’r Lleng Brydeinig Frenhinol fydd yn troi’r DU yn fôr o goch drwy gydol 2014 a thu hwnt.

Dywedodd Rheolwr Ardal Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol, Phil Jones:

“Rydyn ni’n falch iawn o fenter wych Amgueddfa Cymru ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth i’r ymgyrch pabi. Bwriad yr ymgyrch yw planu pabïau ar draws y DU yn ystod y cyfnod coffhau er mwyn cofio y rhai a fu farw. Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ac am ein digwyddiadau canmlwyddiant ar ein gwefan www.britishlegion.org.uk

Ymhlith uchafbwyntiau rhaglen Amgueddfa Cymru o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod 2014 mae:


Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Saif yr amgueddfa awyr-agored enwog ar dir Castell Sain Ffagan ac mae profiad trigolion yr adeilad ganrif yn ôl yn brawf o effaith hirhoedlog y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru. Ar 28 Awst bydd cyfle i ddysgu am hanes cudd y maenordy yn ystod y Rhyfel a’i rôl fel ysbyty adfer. Cyfathrebu fydd canolbwynt y gweithgareddau ar 18 Medi, gyda chyfle i ymwelwyr archebu sesiynau gyda’r curaduron i archwilio casgliadau’r Amgueddfa o gardiau post, telegramau a llythyrau o’r Rhyfel. Bydd y gwrthrychau yma’n rhoi cipolwg ar fywydau bob dydd pobl gyffredin yn ystod y Rhyfel, o Gymru i faes y gad.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dechrau’r cofio ar 2 Awst 2014 yn agoriad Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Arddangosfa o gyfres o brintiau lithograff a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r frwydr. Yn y delweddau gwelwn y newid agwedd, fel gyda rôl y fenyw er enghraifft, yn ystod y rhyfel. Ymhlith y lithograffau mae delweddau gan rai o artistiaid mwyaf Cymru a Phrydain fel Augustus John a Frank Brangwyn.

Mae project ar y cyd â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol a Paul Mellon wedi ennyn ymateb cryf gan bobl ifanc i’r printiau Efforts and Ideals. Caiff ffrwyth eu gwaith – yn bosteri, ffilmiau byr, monologau a gwaith animeiddio – ei arddangos ar yr un pryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Bydd Cychwyn Cofio yn dechrau yn Amgueddfa Lechi Cymru ym mis Gorffennaf 2014 gydag apêl i bob cwr o gymunedau’r chwareli am wybodaeth am y rhyfel a’i effaith ar fywydau pobl. Bwriad yr apêl yw manteisio ar y rhaglen gymunedol i gefnogi ac ategu’r gwaith o ddatblygu dwy arddangosfa fydd yn agor yn 2015 a 2016.

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin

Bydd Diwydiant Gwlân dan Gwmwl Du yn agor yn ystod yr haf eleni (1 Gorffennaf – 29 Tachwedd 2014). Golwg ydyw ar ymgyrchu taer y diwydiant gwlân am gytundebau gwaith i gadw’r melinau ar agor, a straeon megis ymgais Corfflu’r Fyddin Gymreig i hyrwyddo hunaniaeth Gymreig drwy ddilladu’r fyddin newydd mewn brethyn cartref.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrthi’n cynhyrchu Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Mawr (12 Hydref 2014 – 15 Mawrth 2015) – arddangosfa yn edrych ar gyfraniad diwydiannau Cymru i’r Rhyfel. Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol 2014.

 

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion hefyd yn cyfrannu at y cofio drwy edrych ar ryfela drwy’r canrifoedd. Mae Equus: Y Ceffyl Rhyfel (27 Mehefin 2014 – 30 Ionawr 2015) yn edrych ar geffylau rhyfel Rhufain a’u hoffer ac yn eu cymharu â’r defnydd o geffylau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Digwydd hyn yn dilyn llwyfannu War Horse yng Nghanolfan y Mileniwm a chanfod offer pen ceffyl yn ddiweddar wrth gloddio yng Nghae’r Priordy.

 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen bedair blynedd ewch i wefan yr amgueddfa www.amgueddfacymru.ac.uk / www.walesremembers.org.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r ddwy Amgueddfa.