Cymru i gynnal Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
02 / 05 / 2014Heddiw [2 Mai 2014], cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a’r Cyng. Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y bydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn dod at ei gilydd i gynnal Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol i nodi canrif ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynhelir y gwasanaeth ar ffurf gwylnos yng ngolau cannwyll, a hynny am 10 yr hwyr ar nos Lun, 4 Awst, yng Nghadeirlan Llandaf, Caerdydd.
Yr Hybarch Gerwyn Capon, Deon Llandaf, a’r Parchedig Ganon Aled Edwards fydd yn arwain y gwasanaeth; Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, fydd yn rhoi’r bregeth.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Bydd yr wylnos hon yn nodi dechrau cyfnod o bedair blynedd o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma gyfnod yn ein hanes a arweiniodd at ddewrder ac aberth aruthrol ar faes y gad ac arwriaeth dawel ar lawr gwlad. Mae’n gyfle i fyfyrio a choffáu cyfnod arswydus yn ein hanes, a newidiodd y byd a siapio’r Gymru rydyn ni’n byw ynddi heddiw.”
Dywedodd y Cyng. Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd:
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gofio dewrder y bobl fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n bwysig hefyd fod y straeon o aberth enfawr yn parhau i fyw yn y cof, gan mlynedd yn ddiweddarach. Neilltuo amser i fyfyrio’n dawel yw’r ffordd briodol o gofio’r cyfnod allweddol hwn mewn hanes, a choffáu’r rheini fu’n ymladd dros eu gwlad.”
Dywedodd yr Hybarch Gerwyn Capon:
“Gan mlynedd wedi’r digwyddiad, bydd y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn gyfle i bobl Cymru ymgynnull gerbron Duw yng Nghadeirlan Llandaf, i gofio bywydau’r holl bobl gyffredin a anfonwyd o bob cwr o Gymru i faes y gad. Dyma fywydau a gafodd eu dinistrio neu eu newid yn llwyr wedi’r brwydro erchyll yn llaid y Somme a thu hwnt.”
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal o amgylch Cymru ar 4 Awst i nodi’r dyddiad allweddol hwn, sydd hefyd yn nodi dechrau pedair blynedd o ddigwyddiadau coffa.
Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill, yn datblygu cyfres o weithgareddau coffa drwy’r rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau pwysig eraill, ewch i https://www.cymruncofio.org/.