Coffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
20 / 05 / 2014
Cafodd Cofeb RyfelGenedlaethol Cymru ei chodi ym Mharc Cathays ym 1928. Y ddelwedd hon yw un o lawer o ffotograffau o gofebion rhyfel sydd bellach ar gael ar Coflein.
Rhwng 2014 a 2018 fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn cymryd rhan yng nghanmlwyddiant coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y rhyfel, a ddechreuodd ym 1914 ac a ddaeth i ben ym 1918, gryn ddylanwad ar lunio’r Gymru rydym ni’n ei hadnabod heddiw. Gan mlynedd wedyn, mae sefydliadau ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i wella ein dealltwriaeth o’r rhyfel a’r dinistr enbyd a achosodd, i ymchwilio i’w effeithiau, ac i ddarganfod ei waddol ar gyfer Cymru fodern.
Yn ystod y pedair blynedd nesaf, bydd y Comisiwn yn cyfrannu at goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru drwy:
- Arolygu a chofnodi detholiad o safleoedd sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys gwneud arolygon o’r awyr o safleoedd megis y ffosydd ymarfer ym Mhenally, Sir Benfro, ac ardaloedd hyfforddi eraill.
- Gwella gwybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
- Parhau i gyfoethogi ein gwybodaeth o longddrylliadau a llongau tanfor Almaenig a suddwyd oddi ar arfordir Cymru, a cholledion eraill ar y môr yn ystod yr ymladd.
- Cynnal arddangosfeydd sy’n tynnu sylw at hanes, effeithiau a gwaddol y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
- Cydweithio â Chasgliad y Werin Cymru i wella’r cynnwys sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
- Gweithio mewn partneriaeth â Cadw, English Heritage, Historic Scotland a Chyngor Archaeoleg Prydain ar y prosiect Home Front Legacy 1914-18. Nod y prosiect cymunedol unigryw hwn ar gyfer y DU gyfan yw cofnodi olion safleoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, a sicrhau bod eu hanes, treftadaeth a storïau’n cael eu cadw i’r cenedlaethau a ddaw (www.homefrontlegacy.org.uk).
- Manteisio ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill i goffáu digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac i ymchwilio i’w effeithiau a’i waddol ar gyfer pobl Cymru.
Gallwch ddilyn ein gwaith ar y Rhyfel Byd Cyntaf drwy danysgrifio i’n blog www.heritageofwalesnews.blogspot.com, a thrwy ein dilyn ar Twitter yn @RCAHMWales, a #walesremembers.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.