Y Rhyl yn paratoi i goffau can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf
21 / 05 / 2014Mae Cyngor Sir Ddinbych yn paratoi i groesawu digwyddiad pwysig iawn i’r Rhyl yr haf yma i goffau can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd taith World War One At Home y BBC yn ymweld â sioeau sirol, gwyliau haf, sioeau awyr a chanolfannau siopa ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Bydd y digwyddiadau’n myfyrio ar yr effaith sylweddol a gafodd y rhyfel ar deuluoedd a chymunedau, yn ogystal â helpu pobl i ddarganfod hanes eu perthnasau eu hunain yn y rhyfel.
Mae Arena Digwyddiadau y Rhyl wedi ei dewis fel un o wyth lleoliadau ledled y wlad i gynnal digwyddiadau blaenllaw. Bydd y digwyddiad yn y Rhyl yn cyd-daro â Sioe Awyr y dref ar 30 a 31 Awst.
Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden Sir Ddinbych:
“Rydym ni’n falch iawn bod ein hymdrechion i gynnal y digwyddiad hwn yn y Rhyl wedi dwyn ffrwyth ac mae’n llwyddiant mawr i Sir Ddinbych.
“Mae’r Arena Digwyddiadau yn lleoliad gwych i gynnal digwyddiadau mawr, ac mae’r lleoliad eisoes wedi denu miloedd ar filoedd o bobl i’r promenâd. Bydd y digwyddiad hwn yn cyd-fynd â llu o ddigwyddiadau eraill yr haf yma.
“Yn ddiweddar mae Sir Ddinbych wedi cytuno ar Strategaeth Digwyddiadau ac rydym ni’n ceisio mynd gam ymhellach i ddenu digwyddiadau mawr i’r sir. Mae arnom ni eisiau datblygu arbenigedd a swyddi yn y sectorau creadigol a chefnogi digwyddiadau, yn ogystal â swyddi manwerthu, twristiaeth a hamdden traddodiadol. Rydym ni hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau bod digwyddiadau yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych”.