Grant Loteri £2.8miliwn i gartref Hedd Wyn
29 / 05 / 2014Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) heddiw wedi dyfarnu £2.8miliwn i ddatblygu cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn.
Wrth i Gymru ddechrau ar bedair blynedd o goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae CDL yn chwarae rôl allweddol yn y canmlwyddiant gan ddiogelu cartref eiconig, rhestredig Gradd II* y bardd a gollodd ei fywyd yn y brwydro.
Magwyd Ellis Humphrey Evans, sydd yn fwy adnabyddus gan ei enw barddol Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn ac ysgrifennodd un o gerddi enwocaf yng Nghymru am ryfel sef Rhyfel, ac adlewyrchodd erchylltra rhyfel yn ei gerddi. Bydd y grant Loteri Cenedlaethol hwn yn cael ei ddyfarnu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) fydd yn gwarchod Yr Ysgwrn, man a ysbrydolodd nifer o’i weithiau a hefyd diogelu nifer o gasgliadau mewn perthynas ag Hedd Wyn gan gynnwys “Y Gadair Ddu” sef cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 a wobrwywyd iddo wedi ei farwolaeth ar faes y gâd yng nghaeau Fflandrys.
Dywed Dr Manon Antoniazzi, Cadeirydd Pwyllgor CDL yng Nghymru: “Mae’r Ysgwrn yn rhoi darlun byw inni o fywyd yn y Gymru wledig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn gofeb nid yn unig i Hedd Wyn, ond i genhedlaeth o ddynion ifanc Cymreig a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y prosiect yn diogelu dyfodol Yr Ysgwrn ac etifeddiaeth Hedd Wyn gan sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall pwysigrwydd y bardd Cymreig hynod hwn a’i waith.”
Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Yn ystod y pedair blynedd nesaf, bydd nifer o brosiectau yn cael eu cynnal led Cymru gan nodi dyddiadau allweddol, digwyddiadau a datblygiadau ynghlwm â’r brwydro ac mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu grantiau bach i gymunedau sydd am nodi’r canmlwyddiant trwy ei rhaglen “Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw”. Cynrychiola Hedd Wyn cenhedlaeth o ddynion ifanc a bu farw yn y brwydro, tra bod ei gyn gartref, sydd yn parhau gan fwyaf heb ei newid ers iddo fyw yno, yn cynnig cipolwg ar fywyd yn y Gymru wledig yn ystod y cyfnod hwn.
Dywed Prif Weithredwr APCE, Emyr Williams, “Mae Yr Ysgwrn a’r tirwedd o’i hamgylch wedi ysbrydoli nifer o gerddi mwyaf adnabyddus Hedd Wyn ac mae o hyd yn ysbrydoli pobl led led y byd sydd wedi gwirioni ar stori Hedd Wyn a threftadaeth hynod Yr Ysgwrn. Ein hamcan yn awr yw sefydlu Yr Ysgwrn fel fangre diwylliannol arloesol, a fyddai’n cyfleu negeseuon am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel i bobl yn Eryri, Cymru a’r byd. Mae e hefyd yn ein caniatáu i ddiogelu casgliad unigryw Yr Ysgwrn o arteffactau ac archifau, yn ogystal â darparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg a dehongliad i ymwelwyr mewn modd sy’n cydnabod sensitifrwydd y safle hynod a hanesyddol hwn.”
Gan groesawu’r cyhoeddiad dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae gennym ymrwymiad cadarn i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf trwy ein Rhaglen ‘Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918’. Bues i Artillery Wood ble claddwyd Hedd Wyn ac mae’n dda i gydweithio gyda sefydliadau fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri fel ein bod yn medru gadael gwaddol parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol wrth ein bod yn cofio am ganmlwyddiant cychwyn y rhyfel.”
‘Cadw’r drws ar agor’
Derbyniodd ymdrechion i ddiogelu dyfodol y safle treftadol yma gyhoeddusrwydd yn 2009, wedi i nai Hedd Wyn, Gerald Williams, nodi ei ofidiau am ddyfodol Yr Ysgwrn, a oedd ar y pryd yn byw a rheoli’r cartref. Mae ymwelwyr i’r ffermdy wedi eu croesawu ers marwolaeth y bardd yn 1917, ac mae’r teulu am lynu at yr addewid a gwnaethpwyd i Fam Hedd Wyn y byddant yn “cadw’r drws ar agor.”
Dywed Mr Williams, sy’n wyth deg a phum mlwydd oed: “Mae cadw drws Yr Ysgwrn ar agor yn fodd o gadw cof fy ewythr yn fyw, ac er fy mod wedi croesawu ymwelwyr ar bob achlysur, nid oeddwn yn sicr y byddai modd i gadw hyn i fynd yn y dyfodol. Mae pryniant Yr Ysgwrn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r grant a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi sicrhau y bydd y drws yn parhau ar agor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn iddynt dalu teyrnged a dysgu am Hedd Wyn.”