Arddangosfa Arbennig Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yng Nghaerdydd
29 / 05 / 2014- Arddangosfa arbennig fydd yn nodi rôl catrodau Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr
- Ffotograffau a straeon yn dod â phrofiadau unigryw o’r rhyfel yn fyw
- Crëwyd mewn partneriaeth â Firing Line – Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd
Bydd arddangosfa sy’n ymdrin â rôl unigryw catrodau Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr yn agor yng Nghaerdydd dros yr haf.
Bydd Cymry’r Rhyfel Mawr yn dod i Firing Line, Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd drwy ddwylo Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, o Chelsea, Llundain. Mae’r arddangosfa’n cyflwyno arteffactau, ffotograffau a straeon lu o gasgliad enfawr yr Amgueddfa o ddeunydd ar gatrodau fel y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Cyffinwyr De Cymru a’r Gatrawd Gymreig.
Chwaraeodd catrodau o Gymru ran allweddol ym mhob cam o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a bydd ymwelwyr â’r arddangosfa’n dysgu mwy am straeon a phrofiadau’r milwyr. Bydd yr arddangosiadau’n edrych ar sut yr oedd catrodau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Cyffinwyr De Cymru a’r Gatrawd Gymreig ymhlith y cyntaf i’w hanfon i Ffrainc yn Awst 1914. Cymerodd 2il Fataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru hefyd ran yng Nghadoediad enwog Nadolig 1914.
Bydd Cymry’r Rhyfel Mawr hefyd yn gosod profiadau rhyfel catrodau Cymru yng nghyd-destun y Rhyfel Mawr fel rhyfel byd-eang, gan ystyried rhan Cyffinwyr De Cymru yng Ngwarchae Tsingtao, porthladd Almaenig yn Tsieina.
Gan geisio dod â phrofiadau personol milwyr Cymru ar faes y gad yn fyw, mae’r arddangosfa’n canolbwyntio ar brofiadau beunyddiol fel ysgrifennu llythyrau, gan edrych ar wasanaeth post cyflym ac effeithiol y Peirianwyr Brenhinol rhwng Ffrynt y Gorllewin a Phrydain.
Dywed Janice Murray, Cyfarwyddwr Cyffredinol NAM, “Rydym wedi mwynhau ffurfio’r arddangosfa hon yn fawr ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei hagor i drigolion Caerdydd ac ymwelwyr â’r ddinas. Mae’n llawn straeon sy’n dangos sut y chwaraeodd catrodau lleol eu rhan bwysig nhw yn nigwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf, a bydd yr arddangosfa’n datgloi profiad cymhleth Cymru o’r rhyfel.”
Dywed Rachel Silverson, Curadur Firing Line, Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd, “Rydym yn falch o fod yn bartner i NAM i gyflwyno’r arddangosfa hon, a fydd yn ychwanegiad cryf at ein gweithgareddau i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf.”
Mae Cymry’r Rhyfel Mawr yn rhan o raglen helaeth NAM i gofio am y Rhyfel Byd Cyntaf. Dan thema gyffredinol ‘Dechrau’r Rhyfel ac Ymfyddino 1914-1915’ mae’r Amgueddfa wrthi’n mynd â’i heitemau a’i chyfleusterau dysgu ledled y DU, gan ystyried dyddiau cynta’r rhyfel a’r ffordd y cafodd Byddin Prydain ei pharatoi a’i hymfyddino. Mae’r rhaglen yn defnyddio posteri recriwtio a phropaganda, gwisgoedd, ffotograffau, arfau a llythyrau sy’n adrodd stori am y rhyfel byd gydag elfennau personol a lleol.