NEWYDDION

Dod â phrofiadau milwyr Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw

18 / 06 / 2014
First Minister speaking at the launch of the Wales Goes to War exhibition /   Prif Weinidog yn siarad yn achlysur lansio’r arddangosfa ‘Cymry’r Rhyfel Mawr’

Prif Weinidog yn siarad yn achlysur lansio’r arddangosfa ‘Cymry’r Rhyfel Mawr’

Heddiw, agorodd y Prif Weinidog Carwyn Jones arddangosfeydd yn ymchwilio i rôl unigryw milwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn Firing Line: Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd, drwy gydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, nod arddangosfa Outbreak 1914: Wales Goes to War yw dod â straeon milwyr Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw, gan ganolbwyntio ar eu profiadau dyddiol ar y rheng flaen drwy arteffactau, lluniau a hanesion.

Nod yr arddangosfa yw tynnu sylw at effaith y rhyfel ar Gymru, ond hefyd effaith Cymru ar y rhyfel. Bydd yr arddangosfeydd yn dangos sut roedd lluoedd o Gymru ymhlith y cyntaf i gael eu hanfon i Ffrainc ym mis Awst 1914 a rhan 2il Gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yng nghadoediad enwog Nadolig 1914.

 

 

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r arddangosfa gyffrous a manwl hon yn dangos effeithiau dinistriol rhyfel oedd yn cael eu ymladd filoedd o filltiroedd i ffwrdd ar gymunedau ym mhob cwr o Gymru. Er na fyddwn ni wir yn deall sut oedd bywyd i filwyr Cymreig ar y rheng flaen, mae’r arteffactau hyn yn rhoi amcan gwerthfawr i ni o’u profiadau.

“Mae hefyd yn bwysig bod hanesion o’r rhyfel, fel y rhai sydd ar ddangos yma, yn cael eu cadw a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Ddylem ni byth anghofio’r aberth a wnaed dros heddwch a rhyddid a rôl bwysig y chwaraeodd llawer o Gymru yn sicrhau hyn.”

Mae arddangosfa lai gan Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol hefyd yn agor yn Amgueddfa Firing Line. Mae arddangosfa ‘…money, munitions and medals’ yn dangos cyfraniad y Bathdy Brenhinol at y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ganolbwyntio ar yr heriau i’w weithwyr, ac effaith y rhyfel ar gynhyrchiant.

Mae’r Prif Weinidog yn arwain coffâd Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau allweddol drwy raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.