NEWYDDION

Gwestai arbennig yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru

26 / 06 / 2014
© National Theatre Wales

© National Theatre Wales

Heno [dydd Iau 26 Mehefin], bydd gwestai arbennig, sef Maer tref Mametz, yn ymweld â chgynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru ym Mametz, a hynny yn y digwyddiad i’r wasg gyda’r nos.

Stéphane Brunel (yr ail o’r dde), sef Maer Mametz / Stéphane Brunel (second from right), Mayor of Mametz.

Stéphane Brunel (yr ail o’r dde), sef Maer Mametz / Stéphane Brunel (second from right), Mayor of Mametz.

Cafodd y ddrama newydd hon ei chomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru a 14-18 – NOW, sef y rhaglen ddiwylliannol i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gwaith yn dychmygu’r digwyddiadau yng Nghoedwig Mametz rhwng 7 ac 11 Gorffennaf 1916 i greu drama bwerus iawn am y natur ddynol. Cerdd Owen Sheers, dan y teitl ‘Mametz Wood’ yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y ddrama. Mae’n tynnu ar ddeunydd ysgrifenedig gan feirdd a fu’n ymladd ym Mrwydr Coedwig Mametz, neu a welodd yr ymladd â’u llygaid eu hunain. Cafodd 4,000 o filwyr yr 38ain Adran (Cymreig) eu lladd neu eu hanafu. Roedd llawer o feirdd Cymraeg a Saesneg allweddol y rhyfel, gan gynnwys Robert Graves, David Jones, Siegfried Sassoon a Llewelyn Wyn Griffith, ymhlith y milwyr a gymerodd ran yn y frwydr hon.

Mae’r ddrama wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cael ei pherfformio yng Nghoedwig Uchaf Llancaio Fawr, ger Brynbuga, tan 5 Gorffennaf.

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon a fydd hefyd yn dod i’r perfformiad: “Dw i’n falch o gael croesawu M. Brunel, Maer tref Mametz yng Ngogledd Ffrainc i Gymru i gael gweld y cynhyrchiad pwerus, newydd hwn am frwydr bwysig y Rhyfel Byd Cyntaf a ddigwyddodd ger ei bentref. Mae canmlwyddiant dechrau’r rhyfel ym 1914 yn gyfle pwysig i ni gofio pawb a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r effaith bellgyrhaeddol a gafodd y rhyfel ar siapio Cymru fodern.”

https://www.cymruncofio.org/events_list/national-theatre-wales-mametz/