NEWYDDION

Gwaddol gan genhedlaeth newydd i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

27 / 06 / 2014

Events and News feature holding image - 220x140Caiff prosiect ar y cyd lle y bydd disgyblion o bob rhan o Gymru’n creu gwaddol addas i gofio’r rhai a fu’n rhan o’r Rhyfel Byd Cyntaf ei lansio heddiw gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Caiff prosiect Cymru yn y Rhyfel (W@W) ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, y Llynges Frenhinol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Nod y prosiect yw creu archif ar-lein o effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fywyd a chymunedau yng Nghymru drwy blatfform/ap arbennig.

Canolbwyntia’r prosiect ar weithgaredd i blant ysgol yng Nghymru er mwyn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y plant yn defnyddio’r holl ddeunyddiau a geir yn llyfrgelloedd ac archifau Cymru er mwyn datblygu a chyhoeddi bywgraffiadau’r 40,000 o filwyr o Gymru a fu farw. Bwriedir canolbwyntio ar y rhai a gaiff eu henwi ar eu cofebau rhyfel lleol.

Mae’r prosiect yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 sy’n cael ei chynnal ar draws Cymru i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £76,500 i greu ap Theatrau Rhyfel a fydd yn cynnwys amserlen y Rhyfel Byd Cyntaf ac a fydd yn defnyddio mapiau, ystadegau, dyddiaduron, papurau newydd, ffotograffau ynghyd â deunyddiau sain a delweddau symudol. Bydd naws Gymreig i’r wybodaeth hon.

Bydd yr ap yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn dangos i ddisgyblion lle y gwnaeth milwyr, morwyr ac awyrenwyr ymladd, marw a lle y cawsant eu claddu. Bydd hefyd yn disgrifio’r amodau yr oedd yn rhaid i bersonél y lluoedd arfog eu hwynebu yn ystod y rhyfel.

Bydd yr ap yn cyfuno ac yn ategu’r deunyddiau addysgol sy’n cael eu llunio gan y Llyfrgell Genedlaethol a bydd yn cynorthwyo disgyblion â’u gwaith ymchwil. Bydd hefyd yn cyfeirio’r defnyddwyr at archifau a swyddfeydd cofnodion lleol ac yn datblygu gweithgareddau hyfforddi gan ddefnyddio’r deunyddiau hyn ar gyfer athrawon, teuluoedd a disgyblion.

Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn £85,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £70,000 gan Gronfa Gyfamod y Lluoedd Arfog.

HMS Enterprise yn cyrraedd yng Nghaerdydd ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2014. © Royal Navy

HMS Enterprise yn cyrraedd yng Nghaerdydd ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2014. © Royal Navy

Dywedodd y Prif Weinidog cyn lansio’r prosiect ar fwrdd HMS Enterprise, sydd ym Mae Caerdydd:

“Mae cofio bod can mlynedd wedi mynd heibio ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn creu cyfle i bob un ohonom dalu teyrnged a chofio aberth a dewrder y rhai a fu’n rhan o’r rhyfel. Mae’n anrhydedd enfawr i arwain rhaglen Cymru o ddigwyddiadau cofio sef Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Un o brif amcanion y rhaglen hon yw ennyn diddordeb ein pobl ifanc yn nigwyddiadau a chanlyniadau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Prif Weinidog Carwyn Jones / First Minister Carwyn Jones © Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Prif Weinidog Carwyn Jones / First Minister Carwyn Jones © Llywodraeth Cymru / Welsh Government

“Mae’r prosiect arbennig hwn yn gwneud hyn a llawer iawn mwy. Mae Cymru’n Cofio yn llawer iawn mwy na phrosiect addysg. Bydd yn defnyddio cofebau rhyfel lleol er mwyn dangos yn glir i blant yr effaith a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu cymuned a bydd yn ennyn diddordeb disgyblion mewn hanes lleol y gallant ei weld ac ymweld ag ef gyda’u dosbarth a’u teulu. Bydd hyn oll yn sicrhau bod cyfle i ddisgyblion ddysgu y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Canlyniad y rhaglen hon fydd cofnodion digidol parhaol a fydd yn waddol ac a fydd yn atgoffa cenedlaethau’r dyfodol o’r modd y cofiodd Cymru aberth y bobl a fu farw yn ystod y rhyfel, 100 mlynedd yn ddiweddarach.”

Dywedodd yr Athro Lorna Hughes, Deiliad Cadair Prifysgol Cymru mewn Casgliadau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Roeddem yn awyddus i ddatblygu gweithgaredd i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf y byddai holl blant Cymru’n elwa arno. Ein nod oedd creu gweithgaredd a fyddai’n canolbwyntio ar effaith y rhyfel ar bob cymuned a hefyd yn cysylltu plant â threftadaeth ar ffurf cofebau rhyfel lleol. Bydd pwyslais ar ddefnyddio llyfrgelloedd ac archifau Cymru er mwyn darganfod hanesion cudd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd Cymru yn y Rhyfel yn gwneud hyn a hefyd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i blant ar gyfer gwneud gwaith ymchwil hanesyddol drwy ddulliau digidol.”

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

“Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu grant o £85,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer prosiect Cymru yn y Rhyfel. Mae’r dull partneriaeth a fu ynghlwm wrth y prosiect wedi creu cryn argraff arnom ynghyd â’i nod i greu adnodd eang ei gwmpas ar gyfer cofnodi gwybodaeth am gofebau rhyfel ledled Cymru. Plant ysgol fydd yn arwain y prosiect gan fwyaf a bydd yn pennu lleoliadau, yn adrodd straeon ac yn paratoi bywgraffiadau o’r enwau a gaiff eu rhestru ar holl gofebau rhyfel Cymru.

“Gall y prosiect hwn ddangos gwir effaith a hanes y gwrthdaro, ar faes y gad a hefyd i’r rhai a arhosodd adref. Bydd yr adnoddau a fydd yn deillio o’r prosiect yn creu cyfleoedd newydd i archwilio a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a fydd yn ein helpu i ddeall yn well y gwrthdaro a’i effaith ar Gymru. Mae hyn yn bwysig iawn o ystyried ein bod yn cofio can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel.”

Dywedodd y Dirprwy Gomander Morol Rhanbarthol ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr, y Comander Tom Herman, OBERN:

“Cryfder mawr y prosiect hwn yw ei fod yn cynnwys pob theatr rhyfel ynghyd â’r tri gwasanaeth sydd o fewn cymuned y plentyn. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono!”