NEWYDDION

LANSIO CYHOEDDIAD NEWYDD I GOFIO’R RHYFEL BYD CYNTAF – RHAGLEN 2014

01 / 07 / 2014

20509 Wales Remembers Delivery Plan_Front cover_WELSHMae cyhoeddiad newydd wedi’i lansio sy’n rhoi manylion ynghylch digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru eleni er mwyn cofio can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

I weld y Rhaglen 2014 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 cliciwch yma.

Mae’r llyfryn yn rhan o gyfres o gyhoeddiadau blynyddol a fydd yn rhoi sylw i’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru, neu fannau eraill os ydynt yn berthnasol i Gymru, er mwyn nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys erthyglau manwl ynghylch gwahanol ddigwyddiadau a phrosiectau perthnasol.

Prif Weinidog Carwyn Jones / First Minister Carwyn Jones © Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Prif Weinidog Carwyn Jones / First Minister Carwyn Jones © Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:  “Rydw i a’m cynghorydd arbenigol ar y Rhyfel Byd Cyntaf, Syr Deian Hopkin, wedi gwerthfawrogi’n fawr y modd y mae sefydliadau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru wedi mynd ati i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cymunedau o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i baratoi digwyddiadau cofio ac mae’r cydweithio sydd ynghlwm wrth gynnal y digwyddiadau hyn wedi creu cryn argraff arnaf. Rwy’n gobeithio y byddwch yn teimlo bod llyfryn Rhaglen 2014 yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol ac y byddwch yn parhau i gefnogi ein rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 gydol y flwyddyn.”

Bydd y Prif Weinidog yn cynnal Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 4 Awst er mwyn nodi canmlwyddiant dechrau’r rhyfel. Caiff seremoni gyflwyno ar gyfer Cofeb Cymru ei chynnal ym mhentref Langemark yn Fflandrys, Gwlad Belg ar 16 Awst. Bydd y gofeb newydd yn cofio’r holl bobl a hanai o Gymru ac a fu’n rhan o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae ein sefydliadau cenedlaethol hefyd wrthi’n trefnu nifer o ddigwyddiadau ac mae prosiectau ar waith ganddynt a fydd yn galluogi pobl Cymru i ddysgu rhagor am achosion rhyfel, a gafodd effeithiau mor bellgyrhaeddol ar Gymru.

Mae pobl ar draws Cymru’n cael eu hannog i fynychu’r digwyddiadau hyn, neu drefnu eu digwyddiadau eu hunain, a chyhoeddi eu cynlluniau ar wefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 (www.cymruncofio.org). Mae’r wefan bellach yn cynnwys Calendr Digwyddiadau newydd lle gallwch chwilio am ddigwyddiadau’n lleol ac yn genedlaethol trwy fapio rhyngweithiol ac ychwanegu unrhyw ddigwyddiadau sydd gennych ar y gweill. Ceir hefyd wybodaeth am y canmlwyddiant a’r digwyddiadau cysylltiedig ar Twitter: @cymruncofio a Facebook: Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.