Gweinidog yn talu teyrnged mewn gwasanaeth coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf
02 / 08 / 2014Heddiw (2 Awst) mewn gwasanaeth coffa, bydd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, yn cofio pawb yn Grangetown, Caerdydd a deimlodd ergyd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gwasanaeth hwn ymhlith nifer o ddigwyddiadau y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn bresennol ynddynt dros yr wythnosau nesaf i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Effeithiodd y Rhyfel hwn ar fywydau pobl leol, ac felly bydd y Gweinidog yn rhoi darlleniad ac yn gosod torch heddiw i dalu teyrnged i’r bobl hynny.
Dywedodd y Gweinidog Jeff Cuthbert:
“Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio’n fawr ar gymuned Grangetown, fel y gwnaeth ar y rhan fwyaf o gymunedau Cymru. Mae cofeb Grangetown yn rhestru 330 o aelodau’r lluoedd arfog a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel, gan gynnwys masnachforwr mor ifanc â 14 oed. Wrth inni agosáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel ar 4 Awst, mae’n briodol iawn ein bod yn dod at ein gilydd i dalu teyrnged i’r dynion a’r menywod dewr hynny o Grangetown a gymerodd ran yn y Rhyfel.
“Mae’r gwasanaeth hwn yn un digwyddiad o blith llawer a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith aruthrol ar y Gymru fodern.
“Drwy’r rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol ar ddigwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol, sydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau cymunedol, fel ymchwilio i gofebion rhyfel lleol, ynghyd ag amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni addysgol.”
Mae’r gwasanaeth coffa, a fydd yn cael ei gynnal ger y Senotaff yng Ngerddi’r Grange, wedi’i drefnu gan Gymdeithas Hanes Lleol Grangetown. Bydd arddangosfa filwrol ar y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei agor am 1pm, cyn dechrau’r gwasanaeth am 3pm.
Bydd y Gweinidog yn ymuno ag Arglwydd Faer Caerdydd a chynrychiolwyr o’r Fyddin a’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Bydd pabi yn cael ei osod wrth droed y gofeb ar gyfer pob un o’r enwau sydd wedi’u rhestru ar Gofeb Grangetown, a bydd aelodau o’u teuluoedd yn dod i’r gwasanaeth.