NEWYDDION

Cymru’n cofio moment dyngedfennol mewn hanes

04 / 08 / 2014

Wrth i Gymru baratoi i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd oedi i gofio moment dyngedfennol mewn hanes.

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y DU i gofio’r foment, am 11 pm ar 4 Awst 1914, pan aeth Prydain i ryfel.

Bydd y Prif Weinidog yn ymuno â Dug a Duges Caerloyw a’r Gwir Barchedig Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, mewn gwylnos olau cannwyll yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a fydd yn rhan o wasanaeth a gynhelir ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynd i Wasanaeth y Gymanwlad i Goffáu’r Rhyfel yn Glasgow yn gynharach yn ystod y diwrnod, a bydd Tywysog Cymru a Phrif Weinidog y DU, David Cameron, hefyd yn bresennol.

Fel rhan o wasanaeth cofio, bydd Prif Weinidog Cymru hefyd yn gosod torch ar ran y genedl yn Senotaff Glasgow yn George Square.

Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymuno â ‘Lights Out, y fenter ar gyfer y DU gyfan, pan fydd y goleuadau i gyd heblaw am un yn cael eu diffodd yn adeiladau Llywodraeth Cymru, y Senedd a safleoedd Cadw yng Nghastell Caernarfon a Chastell Coch, rhwng 10 ac 11 pm, fel gweithred symbolaidd o gofio.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

“Heddiw, rydyn ni’n cofio moment dyngedfennol yn ein hanes. Cafodd y digwyddiadau ar ôl 4 Awst 1914 ganlyniadau pellgyrhaeddol a theimlwyd eu heffaith drwy ein hanes wedi hynny.

“Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru heddiw i gofio. Maen nhw’n ffordd o sicrhau na fyddwn ni fyth yn anghofio moment sydd wedi effeithio ar fywydau pob un person sy’n byw yng Nghymru.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn golygu oedi am foment i gofio aberth dynion a menywod cyffredin o gymunedau ledled Cymru, a chofio cost y rhyfel erchyll a’r effaith sydd wedi’i gweld ar ein cenedl ac sydd wedi siapio’r Gymru rydyn ni gyd yn ei hadnabod heddiw.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale:

“Mae’n iawn i ni gofio’r rheini a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ystod y flwyddyn ganmlwyddiant hon a phob amser. Rydyn ni i gyd yn teimlo’n ddiymhongar wrth gofio aberth y rheini a ymladdodd a’r cymunedau gartref.”

Y Prif Weinidog sy’n arwain rhaglen goffáu canmlwyddiant y rhyfel Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Gan weithio gyda chyrff allweddol, y nod yw darparu rhaglen gynhwysol yn cynnwys digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol a gweithgareddau yn y gymuned, er enghraifft gwaith ymchwil i gofebau rhyfel lleol, yn ogystal â phrosiectau addysgol amrywiol.

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

Mae hyn yn cynnwys rhaglen addysgol sy’n cynnig cyfle i bob ysgol uwchradd yng Nghymru wneud cais am grant o £1,000 i’w ddefnyddio i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Rwy’n falch o gael arwain ein rhaglen goffáu, gyda’r nod o roi cyfle i bawb gofio’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes ac i ddysgu mwy.

“Mae’r frwdfrydedd mae ein pobl ifanc wedi’i ddangos wedi fy nghalonogi i’n fawr. Drwy ennyn diddordeb yn y digwyddiadau rhwng 1914 a 1918, a’r effeithiau pellgyrhaeddol a gafodd y rheini, rydyn ni’n sicrhau nad yw’r aberth a wnaed yn cael ei anghofio a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu pasio ymlaen i’r cenedlaethau sydd i ddod.”