NEWYDDION

Cymru’n Cofio gyda Gwasanaeth Cenedlaethol ar S4C

04 / 08 / 2014

S4C - LogoAr nos Lun, 4 Awst cynhelir gwasanaeth gwylnos arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd, i nodi can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwyliwch Cymru’n Cofio 2014 eto ar S4C Clic yma

Yr Hybarch Gerwyn Capon, Deon Llandaf a’r Parchedig Ganon Aled Edwards fydd yn arwain y Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, fydd yn rhoi’r bregeth. Gallwch weld y gwasanaeth yn fyw ar Cymru’n Cofio 1914 nos Lun, 4 Awst, cynhyrchiad arbennig gan BBC Cymru ar S4C.

“Holl bwrpas unrhyw wasanaeth yw myfyrio ar y gorffennol, penderfynu ceisio gwneud yn well yn y dyfodol a gofyn i Dduw weithio arnom ni fel y gallwn dderbyn Ei ysbryd,” meddai Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, a ordeiniwyd yn Archesgob Cymru yn 2003.

“Prif ergyd fy mhregeth yw bod rhyfel, dim ots pa mor angenrheidiol ar adegau, byth yn beth da. Mae ymwneud â rhyfel wastad yn golygu pellhau oddi wrth ddelfryd Duw am gymodi a chariad. Mae’n ddiddorol bod y mwyafrif o’r arweinwyr a’r bobl oedd yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf byth yn siarad am y rhyfel, nac yn ei fawrygu.

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

© Llywodraeth Cymru/The Welsh Government

“Felly, rwy’n dweud bod yna le am edifeirwch, waeth pa mor hanfodol oedd y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Dr Morgan, wrth ymhelaethu ar gynnwys ei bregeth. “Byddaf hefyd yn gofyn pam bod cenedl yn dod at ei gilydd yn ystod cyfnod o ryfel, ond yn ei gweld hi’n anodd gwneud hynny mewn cyfnod o heddwch. Mae teimlad o undod mewn cenedl sydd dan gysgod rhyfel, ond dyw’r un teimlad ddim yno mewn cymdeithas heddychlon.

“Y peth pwysig i’w gofio am y gwasanaeth hwn, a phob gwasanaeth coffáu, yw mai nad y fuddugoliaeth ry’n ni’n ei gofio, ond yr aberth. Ac mae’n ddifyr, fel y dywedodd rhywun, bod ein Gwasanaeth Coffáu Cenedlaethol Blynyddol yn digwydd wrth senotaff, ac nid wrth Arc de Triomphe.”

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C, “Gan mlynedd ers i’r milwyr cyntaf gychwyn am faes y gad, mae’n bwysig ein bod ni’n dal i gofio’r aberth a’r golled enfawr a fu yn ystod y Rhyfel Mawr. Rydym yn falch iawn o fod yr unig sianel deledu i ddarlledu’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol yn llawn, sy’n rhan o weithgaredd coffáu Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, prosiect sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau allweddol eraill yng Nghymru. Bydd yn ddigwyddiad nodedig, sy’n agos at galonnau nifer fawr o bobl, ac mae’n braf gallu rhoi’r cyfle i gynifer o bobl â phosib wylio’r Gwasanaeth ar S4C.”

Gwyliwch Cymru’n Cofio 2014 eto ar S4C Clic yma