NEWYDDION

Arwriaeth dros ddeg mil o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i’w gofio dros ganrif yn ddiweddarach

08 / 08 / 2014

HLF Logo image - LGEWrth i’r wythnos o goffau canrif ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn falch iawn o gyhoeddi grant £10,000 i gefnogi prosiect Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Caernarfon, sy’n ymchwilio rôl y gatrawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe fydd y prosiect yn cael ei redeg gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond y bwriad yw cynnwys ysgolion yn y gweithgareddau a fydd yn eu helpu i gofio hanes canrif yn ôl, wedi ei gefnogi gan ymweliadau archif ac ymchwil cofebion rhyfel. Fe fydd lluniau a deunyddiau eraill yn cael eu casglu gan ddisgyblion a fydd wedyn yn creu teyrngedau i bob un o’r 10,500 aelod o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (FfBC) a gollwyd. Fe fydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu tuag at arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa i’w dangos ar ganmlwyddiant marwolaeth pob dyn. Fe fydd gwirfoddolwyr yn ymweld ag archifau Gwynedd, Conwy a Wrecsam ac archif FfBC yng Nghastell Bodelwyddan.

Yn cyhoeddi’r dyfarniad, dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru:

“Wrth i Gymru talu teyrnged i’r rheiny a gollwyd yr wythnos hon, dyma adeg hynod briodol i gyhoeddi arian ar gyfer y prosiect hwn, wedi ei arwain gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae’n brosiect a fydd yn ceisio adrodd hanesion personol yr holl ddynion a gollwyd. Mae’n enghraifft wych o grwpiau gwahanol yn dod ynghyd er mwyn sicrhau nad ydym yn anghofio aberth y dynion hyn.”

Fe wnaeth Shirley Williams o Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig pwysleisio pwysigrwydd elfennau addysgol y prosiect:

“Fe fydd y disgyblion, cyn belled a bod modd, yn gwneud cysylltiadau gyda milwyr a bu farw a hefyd yn cael y cyfle i gael profiad o’u bywydau. Fe fydd y prosiect yn sicrhau argraff trwy adrodd storiâu ac ail-greadau gydag ysgolion a grwpiau cymunedol, ac wrth gael plant ysgol i wisgo lifrai Rhyfel Byd Cyntaf a chael ymarferion. Fe fydd hyn yn dod a bywyd canrif yn ôl yn fyw iddynt.”

Fe fydd y prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Cadw, Age Cymru, cyn-filwyr, a Llenyddiaeth Cymru, a fydd yn cynnig cysylltiad llenyddol i’r ymchwil. Fe fydd y disgyblion yn cael eu cynnwys mewn gweithdai ysgrifennu creadigol gan edrych ar sut wnaeth milwyr FfBC a’u teuluoedd nodi eu teimladau a’u hemosiynau am y Rhyfel trwy gelf a barddoniaeth. Hefyd, fe fydd yno nifer o weithdai barddoniaeth yn cael eu cynnal gan ganolbwyntio ar feirdd nodweddiadol o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan gynnwys Hedd Wyn, Robert Graves, Siegfried Sassoon a David Jones.

Croesawodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru, yr elfen yma o’r prosiect a dywedodd:

“I lawer o bobl, barddoniaeth yw’r brif ffordd maent yn adlewyrchu ar dristwch canrif yn ôl. Fe wnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ysbrydoli cynifer o ysgrifau hardd a gwefreiddiol sy’n rhan allweddol yn niwylliant llenyddol Prydain a Chymru, ac fe fydd y prosiect hwn yn helpu i genhedlaeth newydd gysylltu gyda’r rheiny a rhoddwyd eu bywydau. Fe fydd geiriau ac enwau yn dod yn fyw ynghyd unwaith eto.”

Fe fydd rhaglen o sgyrsiau yn cael eu cynnal ar bwnc y Rhyfel Byd Cyntaf gan gynnwys effaith y rhyfel ar Benmaenmawr a brwydr Gallipoli. Fe fydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu cynnal yng Nghastell Caernarfon.