Dadorchuddio cofeb i dalu teyrnged i Gymry’r Rhyfel Byd Cyntaf
16 / 08 / 2014
© Gofeb y Cymry yn Fflandrys/Welsh Memorial in Flanders
Heddiw, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn teithio i bentref Langemark yng Ngwlad Belg i ddadorchuddio cofeb newydd i’r holl Gymry oedd yn rhan o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r seremoni cyflwyno a dadorchuddio yn benllanw nifer o flynyddoedd o ymgyrchu a chodi arian gan y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys i gael cofeb barhaol i gofio am wasanaeth dynion a menywod o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gofeb yn cynnwys cromlech a wnaed o bedair Carreg Las Pennant o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd, ac ar ei phen ceir draig goch o efydd, a ddyluniwyd gan yr artist o Gymru, Lee Odishow.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymdrechion y Grŵp Ymgyrchu o’r cychwyn ac mae wedi cytuno i warantu diffyg o hyd at £25,000 yn y cyllid a godwyd ar gyfer y gofeb gan y Grŵp Ymgyrchu yng Nghymru ac yn Fflandrys.
Bydd pridd a gasglwyd yn ddiweddar o gopa’r Wyddfa a Phen y Fan ac o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, yn cael ei osod ar waelod y gofeb fel rhan o’r seremoni gyflwyno. Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gosod torch a neges ysgrifenedig ar ran pobl Cymru.
Wrth siarad cyn ei ymweliad â Gwlad Belg, dywedodd y Prif Weinidog:
“Eleni rydym yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n amserol ein bod yn dadorchuddio’r gofeb nawr, fel arwydd o barch, ac i gofio’r holl Gymry a wynebodd erchylltra yma nad oes modd i ni ei ddirnad. Oherwydd yr aberth a wnaethant a’r rhyddid y brwydrwyd amdano, rhaid i ninnau barhau i dalu teyrnged iddyn nhw heddiw.
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth yr ymgyrch bwysig hon. Mae’r gofeb drawiadol hon yn fodd i’n hatgoffa bod angen parhau i ymdrechu i sicrhau heddwch yn ein hoes ni.”
Mae disgwyl y bydd rhwng 800 a 1,000 o westeion yn bresennol yn y seremoni ddadorchuddio, gan gynnwys trigolion lleol sydd wedi cefnogi’r ymgyrch ac sy’n cynnal seremoni fisol i gofio’r milwyr oedd yn gwasanaethu yn yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cael cwmni Dr Andrew Murrison AS, sef Cynrychiolydd Arbennig Prif Weinidog y DU ar gyfer Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, y Llywydd Weinidog Geert Bourgeios o Lywodraeth Fflandrys, a Maer Langemark-Poelkapelle, Alain Wyffels.
Dywedodd Peter Carter Jones, cydlynydd y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys:
“Fel cydlynydd yr ymgyrch am bedair blynedd, rwy’n teimlo’n falch iawn bod hyn wedi digwydd. Mae’n rhaid i mi ddiolch i bwyllgor ardderchog, help Llywodraeth Cymru a haelioni pobl Cymru sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Diolch yn fawr i bobl Cymru.”
Y Prif Weinidog sy’n arwain rhaglen Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau i nodi’r canmlwyddiant, sef Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Wrth weithio gyda sefydliadau allweddol, y nod yw cyflwyno rhaglen gynhwysol yn cynnwys digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol, ar y cyd â gweithgareddau cymunedol, er enghraifft ymchwilio i gofebau rhyfel lleol, ac amrywiaeth o brosiectau addysgol.