Gwasanaeth Teyrnged Cofeb y Cymry yn Fflandrys – Rhaglen
18 / 08 / 2014Gwasanaeth Teyrnged Cofeb y Cymry yn Fflandrys – Rhaglen
Cefn Pilckem, Langemark, Gwlad Belg.
3pm, 16 Awst 2014
Mae’r seremoni cyflwyno a dadorchuddio yn benllanw nifer o flynyddoedd o ymgyrchu a chodi arian gan y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys i gael cofeb barhaol i gofio am wasanaeth dynion a menywod o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gofeb yn cynnwys cromlech a wnaed o bedair Carreg Las Pennant o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd, ac ar ei phen ceir draig goch o efydd, a ddyluniwyd gan yr artist o Gymru, Lee Odishow.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymdrechion y Grŵp Ymgyrchu o’r cychwyn ac mae wedi cytuno i warantu diffyg o hyd at £25,000 yn y cyllid a godwyd ar gyfer y gofeb gan y Grŵp Ymgyrchu yng Nghymru ac yn Fflandrys.
I weld y Rhaglen cliciwch yma.