Cynllun addysg y Rhyfel Byd Cyntaf
19 / 08 / 2014Cyhoeddiad y Gweinidog am adnoddau newydd i’r dosbarth i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.
Ar 1 Mawrth 2012, penododd Prif Weinidog Cymru Syr Deian Hopkin yn Gynghorydd Arbenigol iddo ar y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai Cymru baratoi rhaglen goffa briodol, diddorol a chynhwysol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu adnoddau addysg dwyieithog, cyffrous yn benodol ar gyfer ysgolion Cymru.
Byddant yn berthnasol i bob cwricwlwm ac yn cynnwys adnoddau sain a fideo, delweddau a thestunau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Byddant hefyd yn cynnwys cynlluniau gwersi posibl a dolenni i’w defnyddio mewn perthynas â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.
Mae rhan 1 y pecyn adnoddau (dolen allanol) yn cynnwys 3 modiwl rhagarweiniol:
- Trosolwg o’r Rhyfel Byd Cyntaf
- Tarddiad y Rhyfel Byd Cyntaf
- Cymru, Prydain a’r byd yn 1913.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Drwy’r adnoddau hyn, bydd pobl ifanc Cymru yn gallu deall sut gwnaeth Cymru a’r byd newid am byth o ganlyniad i’r gwrthdaro hwn a’r cynadleddau heddwch a’i dilynodd.”