NEWYDDION

Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

16 / 09 / 2014

photo16830 (1)Mae’n bleser gan Gymdeithas Hanes Pobl Dduon Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, gyhoeddi rhaglen gyffrous a phryfoclyd o ddigwyddiadau a gweithdai a fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru rhwng mis Medi a Thachwedd.  Bydd gan nifer o’r digwyddiadau hyn gysylltiad â Chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Pwyllgor Llywio Mis Hanes Pobl Dduon Cymru 2014 wedi dewis cyflwyno rhaglen o weithgareddau gyda ‘1914-1919’ wrth ei chraidd.  Bydd y rhaglen yn dod â straeon nas adroddwyd o’r blaen a phrofiadau a rannwyd gan gymunedau pobl dduon Cymru yn y cyfnod yn fyw.  Ysbrydolwyd y rhaglen gan ymweliad ag arddangosfa ‘Peilotiaid y Caribî’ Amgueddfa’r Llu Awyr a Chofeb Morwyr y Llynges Fasnachol yn Llundain.

Rydym wedi dechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer rhaglen eang o weithgareddau a fydd yn dechrau gyda’r digwyddiad lansio swyddogol yn Theatr Glan yr Afon Casnewydd ar nos Wener 26 MediYn dilyn hyn, bydd yna berfformiadau, ffilmiau, gweithdai, sgyrsiau ac ymweliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru trwy gydol y tymor.  Cynhelir digwyddiad  mawreddog yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 25 Hydref.

Nos Wener 26 Medi, bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn ne Cymru’n cael ei lansio’n swyddogol yn Theatr Glan yr Afon, a’r gwestai arbennig fydd yr Athro Gus John.  Bydd yno gant o leisiau ifanc o ysgolion Cymuned Cwmtawe, y Forwyn Fair, Sant John Lloyd, Pilgwenlli a Maendy, a bydd drama newydd a gafodd ei hysbrydoli gan effaith mudo Affricanaidd Caribïaidd i Gymru yn ystod 1919 yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf.

Cewch fwynhau rhythmau ragtime a thrawsacenion jazz gan Gôr Ieuenctid Lleisiau’r Caribî, wedi’u harwain gan Jazz Bae Butetown a Cherddoriaeth Gymunedol JW, ynghyd â lleisiau glew morwyr alltud a gysegrodd eu bywydau i Gymru yn y perfformiad cyntaf o’r ddrama Routes, sydd wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Ndidi Spencer, a’i pherfformio gan Neil Reidman, Anthony Corria a Lisa Marged.

Ar ddydd Sadwrn 25 Hydref, am y chweched flwyddyn yn olynol, bydd Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn dod i derfyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle ardderchog i ddathlu diwylliant yr Affricaniaid Alltud a’u cyfraniad i Gymru a thu hwnt gyda cherddoriaeth, dawnsio, bwyd da a chwmni difyr.

Bydd yna berfformiadau ar Lwyfan Glanfa gan:

  • Panafest Cymru, a fydd yn dechrau’r dathliadau gyda bang.  Bydd y perfformiad yn cynnwys artistiaid lleol, ac yn benllanw ar 12 wythnos o weithdai canu, dawnsio, drymio, barddoniaeth, celfyddydau gweledol a theatr.
  • Solid Steel, band dur o Lundain a fydd yn dod â’r gerddoriaeth Calypso gorau i’r Ganolfan.  Disgrifir eu cerddoriaeth fel sŵn dibynadwy’r heulwen.
  • Ballet Nimba, grŵp o Gaerdydd sy’n cyfuno dawns a cherddoriaeth draddodiadol a chyfoes o Orllewin Affrica mewn ffordd gyffrous a dynamig.
  • Baby Queens a Kizzy Crawford, dau o artistiaid prosiect Gorwelion BBC Cymru 2014.  Mae Kizzy Crawford yn gantores sy’n ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ganddi gysylltiad teuluol â Barbados, ac mae ei pherfformiadau yn llawn amrywiaeth a charisma.  Mae Baby Queens, grŵp o ferched o Gymru, yn cymysgu hip-hop, roc, canu’r enaid a reggae gyda lleisiau syfrdanol.
  • Côr Gospel Abertawe, côr gospel grymus sy’n canu cymysgedd o ganeuon gospel traddodiadol a chaneuon cyfoes.
  • The Big Talent School yn cyflwyno Hairspray.  Mwynhewch ddetholiad o un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y West End, yn cael ei pherfformio gan griw o berfformwyr ifanc talentog lleol.
  • Hard Côr, côr trefol Canolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn perfformio clasur o’r 20fed ganrif cynnar yn eu harddull unigryw eu hunain.
  • Messiah Dub Club, band dawns ska sy’n cyfuno cerddoriaeth Ladin, Salsa a Reggae, yn cael eu harwain gan Anthony Ward (Drumtan) o Gaerdydd.
  • Tavaziva Ten, casgliad syfrdanol a hudolus o ddarnau dawns pum munud o hyd yn cael eu perfformio yn Stiwdio Weston.  Bydd wyth o ddawnswyr rhagorol yn perfformio’r deg darn byr hyfryd o ddawns sy’n dangos dychymyg eithriadol Bawren y Cyfarwyddwr Artistig (mae angen tocyn i weld y perfformiadau hyn).

A phetai hynny ddim yn ddigon, bydd y cogydd lleol poblogaidd Geraldine Trotman yn dychwelyd unwaith eto.  Roedd y fwydlen Garibïaidd a gafodd ei gweini yn nathliadau Mis Hanes Pobl Dduon 2013, a gafodd ei dyfeisio a’i pharatoi ar y cyd â phrif gogydd bwyty ffresh, yn llwyddiant mawr, felly bydd Geraldine yn dychwelyd eto i weithio ar fwydlen eleni.  Bydd y fwydlen hefyd yn cael ei gweini trwy gydol mis Hydref ym mar ffresh.

Mae dechreuad Mis Hanes Pobl Dduon yn mynd yn ôl i 1926 pan sefydlodd Carter G. Woodson ddathliadau Affricanaidd Caribïaidd yn America.  Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei ddathlu yn ystod mis Hydref, erbyn hyn wedi cynyddu i dros 6,000 o ddigwyddiadau sy’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau pobl Dduon i gymdeithas Prydain.  Yng Nghymru, mae gan wreiddiau teuluol nifer o drigolion duon gysylltiad â nifer o borthladdoedd allweddol yn enwedig porthladdoedd Caerdydd, Casnewydd, y Barri a Dociau Abertawe, a oedd ar un adeg yn borthladdoedd glo prysur.  Daeth y môr â phobl o bob cwr o’r byd i Gymru; ble bynnag byddai llongau glo Caerdydd yn galw i fasnachu.

Mae’r cofnodion yn dangos y miloedd o forwyr o ethnigrwydd Asiaidd neu Affricanaidd oedd yn gweithio ar longau Prydeinig o 1914 ymlaen.  Roedd y rhan fwyaf o’r morwyr hyn yn defnyddio porthladdoedd De Cymru fel eu cartref dros-dro, ac fe ymgartrefodd rhai ohonynt yn yr ardal yn barhaol.  Mae hi’n eithaf syndod felly fod y straeon rydym yn gyfarwydd â hwy i weld yn hepgor lleisiau’r morwyr Alltud hyn, morwyr oedd wedi cysegru eu bywydau i Gymru.  Bwriad Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yw adrodd hanes y bobl Affricanaidd Alltud o’r cyfnod hwn yn ein hanes trwy amrywiaeth eang o weithgareddau creadigol i bobl o bob oed.  Yn dilyn llwyddiant ysgubol digwyddiadau’r llynedd, rydym yn disgwyl dros 10,000 o bobl yn y 100+ o ddigwyddiadau rydym wedi’u trefnu ar gyfer 7fed tymor Mis Hanes Pobl Dduon Cymru ar draws Cymru gyfan.

“Mae cymunedau Affricanaidd Alltud yn ymfalchïo eu bod yn perthyn i Gymru, a dylen nhw allu adnabod eu hunain trwy adlewyrchiad mwy ffafriol a chytbwys sy’n cyfleu ein gwahanol draddodiadau, profiadau a chyfraniadau diwylliannol.  Trwy gyfrwng y Celfyddydau, mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn ceisio rhoi sylw i’r profiadau hyn.  Mae ein gweledigaeth yn croesawu’r ffaith ein bod yn Gymru Amlddiwylliannol” meddai Leanne Rahman, y Cydlynydd Artistig.

Os ydych yn cynllunio cynnal digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru ac os hoffech i www.bhmwales.org.uk eu hyrwyddo, neu os hoffech gymryd rhan neu archebu stondin yn y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cysylltwch â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd ar 01792 470 298.

Cysylltwch hefyd os hoffech chi noddi gweithgaredd neu drafod prosiect newydd.

Dilynwch @BHMWales #BHMWales a hoffwch Facebook/BHMWales