NEWYDDION

Cais gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 am ddelweddau a manylion digwyddiadau ar gyfer llyfryn Rhaglen 2015.

07 / 10 / 2014

Annwyl bawb,

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 lyfryn ar gyfer Rhaglen 2014, sef y cyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol sy’n nodi digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru, neu ddigwyddiadau perthnasol i Gymru a gynhelir y tu hwnt i’r ffin, i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y llyfryn hefyd yn cynnwys erthyglau a oedd yn manylu ar amryw o ddigwyddiadau a phrosiectau coffáu. I weld Rhaglen 2014 Cymru’n Cofio 1914-1918, cliciwch yma.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Raglen 2015, ac mae’r neges hon yn apêl am ddelweddau a manylion digwyddiadau i’w cynnwys yn y cyhoeddiadau ar ei chyfer.

Delweddau

Rydym yn awyddus i gyhoeddi delweddau unigryw a diddorol, yn enwedig os ydynt yn gysylltiedig â Chymru. Byddem yn ddiolchgar o gael unrhyw ddelweddau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, yn enwedig digwyddiadau neu bynciau sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • Digwyddiadau o rywbryd yn ystod 1915. Mae llinell amser ar gael yma (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig)
  • Ymgyrch Gallipoli
  • Gartref yng Nghymru ym 1915
  • Diwydiant yng Nghymru yn ystod y rhyfel
  • Ffermio yng Nghymru yn ystod y rhyfel
  • Recriwtio yng Nghymru
  • Adrannau neu Filwyr Cymreig
  • Y mudiad heddwch

 

Bydd angen ichi fod yn berchen ar hawlfraint unrhyw ddelweddau a bod yn fodlon rhoi caniatâd inni ei defnyddio. Mae’n bwysig nodi nad ydym mewn sefyllfa i dalu am ddefnyddio eich delweddau. Ni fydd y delweddau ond yn cael eu defnyddio yng nghyd-destun Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu defnyddio mewn cyhoeddiadau eraill neu yn y cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch nodi unrhyw gyfyngiadau neu amodau sydd ynghlwm wrthynt. Byddem hefyd yn ddiolchgar pe baech yn cynnwys disgrifiad cryno o natur y ddelwedd. Yn naturiol byddwn yn nodi pwy yw perchennog y ddelwedd yn y cyhoeddiad.

Anfonwch eich delweddau drwy e-bost i cymruncofio-walesremembers1914-1918@Wales.GSI.Gov.UK neu os yw’r e-bost yn fwy na 10 megabyte (MB), dylech ystyried anfon mwy nag un e-bost neu ddefnyddio gwasanaeth rhannu ffeiliau electronig megis Dropbox neu WeTransfer.

Digwyddiadau

Byddwn hefyd yn cyhoeddi detholiad o ddigwyddiadau yng Nghymru, neu sy’n gysylltiedig â Chymru, a gynhelir i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Os ydych am inni ystyried cyhoeddi eich digwyddiad chi, cewch anfon y manylion atom drwy eu hychwanegu at wefan ein Rhaglen, gan ddefnyddio’r ffurflen electronig ar yr ochr chwith.

Os nad ydych yn siŵr p’un a yw eich digwyddiad yn addas ar gyfer y wefan, neu os hoffech siarad â ni amdano, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bostio cymruncofio-walesremembers1914-1918@Wales.GSI.Gov.UK. Nid ydym mewn sefyllfa i allu talu am gyhoeddi manylion eich digwyddiad.

Byddem yn ddiolchgar iawn am ymatebion erbyn 7 Tachwedd fel bod digon o amser gennym i ystyried a phrosesu unrhyw ddelweddau neu ddigwyddiadau a anfonir atom.

Os nad ydych yn dymuno derbyn yr e-byst yma rhowch wybod inni os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr ymlaen llaw,

Tîm y Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918