Arddangosfa yn datgelu hanes ysbyty Rhyfel Byd Cyntaf Ysgol Gynradd Albany
10 / 10 / 2014Arddangosfa yn datgelu hanes ysbyty Rhyfel Byd Cyntaf Ysgol Gynradd Albany
Bydd Disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Albany yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i arddangos hanes yr ysgol fel ysbyty milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd yr ysgol sydd ar Heol Albany Rhath ei newid i’w ddefnyddio fel ysbyty milwrol o 1914-1919 tra mynychodd disgyblion ysgolion cynradd lleol eraill. Bydd yr ysgol yn agor ei drysau i’r gymuned ar ddydd Sadwrn 18 Hydref rhwng 10am – 3.30 ar gyfer arddangosfa gyhoeddus gyntaf yr ysgol .
Mae’r disgyblion wedi treulio’r hanner tymor yn ymchwilio i hanes yr ysgol gan gynnwys ymweliad ag Archifau Morgannwg i astudio llyfrau log y prifathro o’r adeg. Bydd eu gwaith ymchwil yn cael eu harddangos.
Mae’r prosiect sydd yn bartneriaeth rhwng yr ysgol a Rhath yn Cofio yn anelu i gasglu a chadw’n ddigidol atgofion y Rhyfel Byd Cyntaf megis storïau ac arteffactau o’r gymuned.Gwahoddir unrhyw un sydd â chysylltiadau i Rath neu sydd â stori i’w hadrodd neu unrhyw luniau neu fedalau i rannu i ymweld ag ymchwilwyr Rhath yn Cofio yn ystod yr arddangosfa er mwyn cofnodi hynny. Cafodd Rhath yn Cofio ei sefydlu gan wefan newyddion cymunedol roathcardiff.net sydd yn cael ei ariannu drwy raglen Rhyfel Byd Cyntaf ; ddoe a heddiw – Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cynllun gwreiddiol y pensaer ar gyfer yr ysbyty a ffotograffau o’r ysgol yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth wedi eu trosi i wardiau. Bydd yna luniau o’r torfeydd mawr yn ymgasglu y tu allan i groesawu’r cleifion sy’n cyrraedd. Bydd map graddfa fawr o’r adeg, sy’n dangos yr ysgol yng nghanol dinas sy’n tyfu, yn cael ei arddangos yn ogystal â Rôl Anrhydedd sydd yn nodi enwau’r dynion lleol a wasanaethodd, sydd ar fenthyg gan Eglwys y Bedyddwyr Albany
Meddai Wil Howlett, dirprwy bennaeth:
“Mae’r prosiect hwn wedi dod a gwir hanes yn fyw i’r disgyblion. Mae’r plant wedi cael eu cyffroi gan y cyfle i ymchwilio i wybodaeth am eu hysgol eu hunain ac yna ei rannu gydag aelodau o’r gymuned ehangach drwy’r arddangosfa hon “Mae’r arddangosfa hefyd yn rhan o ŵyl celfyddydau cymunedol Wnaed yn y Rhath eleni. I gysylltu â phrosiect Rhath yn Cofio ewch www.roathremembers.net
Dyddiad: 18 Hydref, 2014
Amser: 10:00-15:30
Lleoliad: Ysgol Gynradd Albany, Mynedfa Heol Albany, Y Rhath