NEWYDDION

Cymru dros Heddwch: Arian Loteri ar gyfer prosiect Rhyfel Byd Cyntaf ledled Cymru

13 / 10 / 2014

Fe fydd treftadaeth y symudiad heddwch yng Nghymru yn gallu cael ei ymchwilio a’i ddarganfod ymhellach yn sgil grant £918,000 a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

© Copyright 2012 CorbisCorporationFe fydd y prosiect “Cymru dros Heddwch/Wales for Peace” yn cael ei weithredu dros gyfnod o bedair blynedd ac yn canolbwyntio ar un cwestiwn canolog: yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu tuag at chwilio am heddwch? Gan ddefnyddio’r Rhyfel Byd Cyntaf fel man cychwyn, fe fydd y prosiect yn ymchwilio atgofion personol rhai o Gymru sydd wedi chwarae rhan yn y symudiad heddwch yn y ganrif ddiwethaf, gan gynnwys cerddorion, beirdd, heddychwyr a gwrthwynebwr cydwybodol, gwleidyddion ac arweinwyr cymunedol, gan daro golwg ar ran lled anghyfarwydd o dreftadaeth Cymru ac fe fydd yn gorffen gydag arddangosfa deithiol o ddarganfyddiadau’r prosiect.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth y CDL yng Nghymru, “Wrth i ni barhau i nodi a chofio’r Rhyfel Byd Cyntaf 100 mlynedd ers iddo ddechrau, mae’n ddiddorol iawn gweld prosiect sy’n canolbwyntio ar stori sydd wedi datblygu o’r gwrthdaro na wyddai neb llawer amdano; rhan Cymru yn y symudiad heddwch. Dyma brosiect trylwyr gyda sawl ffrwd wahanol wedi eu hanelu at ddysgu mwy am ‘treftadaeth heddwch’ Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu wrth iddo fynd ar hyd a lled Cymru.”

Etifeddiaeth heddwch

Gan ddefnyddio’r Rhyfel Byd Cyntaf fel man cychwyn, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar y symudiad heddwch yng Nghymru gan weithio gyda phobl a sefydliadau sydd wedi chwarae rhan yn yr hanes led-anhysbys hwn.

Mae’r prosiect wedi’i rannu’n pum thema ac yn cynnwys digido Llyfr y Cofio Cymreig, sydd wedi’i leol yn Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, wedi’i ddilyn gan arddangosfa deithiol o’r llyfrau sy’n rhestru’r 35,000 o filwyr a laddwyd yn y gwrthdaro.

Themâu’r prosiect:

  • Storiâu’r Milwyr – Datgelu Effaith Rhyfel: Digido Llyfrau’r Cofio cenedlaethol ar gyfer y ddau Ryfel Byd a chefnogi pobl i ddarganfod storiâu tu ôl i rai o’r enwau, wedi’i ddilyn gan arddangosfa deithiol o’r Llyfrau.
  • Adeiladwyr Heddwch – Darganfod Hanesion cudd Cymru: Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â datgelu adeiladwyr heddwch yng Nghymru gan gynnwys ffynonellau ar-lein, digwyddiadau a dehongliadau artistig er mwyn ymchwilio themâu. Fe fydd hanesion o arwyddocâd cenedlaethol yn cael eu hymchwilio, gan gynnwys Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd.
  • Heddwch Nawr – Yr etifeddiaeth ar gyfer Heddiw: Trafodaeth gyda phobl ynglŷn â sut mae gwrthdaro a heddwch wedi siapio Cymru heddiw trwy ddigwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol; ymchwilio agweddau heddiw tuag at heddwch a gwrthdaro.
  • Cenedlaethau’r Dyfodol – Ysbrydoli Pobl Ifanc trwy Dreftadaeth: Defnyddio treftadaeth heddwch Cymru fel sail i greu adnoddau addysgol a fydd yn datblygu sgiliau ac yn ceisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd i weithio tuag at ddyfodol heddychlon.
  • Y Stori Gyfan – Arddangosfa Cymru dros Heddwch: Fe fydd y brif arddangosfa deithiol yn dod a holl elfennau’r prosiect ynghyd ac yn adrodd stori Cymru a heddwch rhwng 1914 a’r presennol, gan gynnwys deunydd rhyngweithiol cenedlaethol a lleol.

 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, “Trwy ein rhaglen cofio’r canmlwyddiant, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, rydym yn annog pobl ar draws Cymru i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y modd maent yn ei ddewis. 

“Rwyf felly’n falch bod y prosiect Cymru Dros Heddwch wedi derbyn y grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ni allem anghofio’r rhan chwaraewyd gan Gymru wrth chwilio am heddwch – yr holl ffordd o’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r dydd presennol.

“Rwy’n gobeithio bydd y prosiect yn cynnig atgofiad ddwys ingol am ganlyniadau’r rhyfel a’i etifeddiaeth i Gymru yn ystod y ganrif ddiwethaf ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Martin Pollard, Prif Weithredwr CMRC, “Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn y grant yma gan CDL. Fe fydd yr arian yn cynnig cyfle i ni ddatgelu rhan o dreftadaeth Cymru sydd wedi parhau’n hanes heb ei fynegi llawer ac yn caniatáu i ni osod y cais am heddwch yng nghanol stori genedlaethol Cymru.”