NEWYDDION

Dirprwy Weinidog yn lansio rhaglen goffa canmlwyddiant yng Nghymru

23 / 10 / 2014

Centenary Fields_066Ar 21 Hydref,wnaeth Meysydd Chwarae Cymru a’r Lleng Brydeinig Frenhinol lansio Caeau Canmlwyddiant yng Nghymru, gyda derbyniad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd Caeau Canmlwyddiant yn creu etifeddiaeth fyw mewn cymunedau ar draws y wlad a’r Deyrnas Unedig ehangach, drwy warchod mannau hamdden awyr agored er cof am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n sicrhau y bydd llefydd i gofio eu haberthau, ond yn bwysicach, bod mannau gwyrdd gwerthfawr yn cael eu gwarchod i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Yn y derbyniad, a noddir gan Aled Roberts AC, wnaeth Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth lansio’r rhaglen goffa yng Nghymru. Roedd arweinwyr ym maes chwaraeon, dyngarwch a’r llywodraeth yng Nghymru yn bresennol yn y digwyddiad pwysig hwn. Mae’r Cae Canmlwyddiant cyntaf yng Nghymru wedi cael ei ddynodi gan Gyngor Bro Morgannwg fel Parc Alexandra ym Mhenarth.

Meddai’r Dirprwy Weinidog “Mae’n anrhydedd i mi gael lansio a chefnogi’r Ymgyrch Caeau Canmlwyddiant yng Nghymru. Mae mor bwysig ein bod yn parhau i gofio pawb a gymerodd ran mewn cymaint o wahanol ffyrdd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bydd yr ymgyrch hon yn gwarchod ein mannau gwyrdd gwerthfawr ac yn sicrhau etifeddiaeth barhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni, wrth i ni nodi canmlwyddiant y digwyddiadau ofnadwy a ddechreuodd ddatblygu ym 1914, mae’n amlwg bod ewyllys cryf o hyd i barhau i gofio.  Rydym wedi bod yn falch i arwain rhaglen y genedl i gofio’r canmlwyddiant, sef Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Ni ddylem fyth anghofio’r aberthau a gafodd eu gwneud dros heddwch a rhyddid, a’r rôl bwysig a chwaraeodd pobl Cymru i sicrhau hyn i ni. “

Meddai Ivor Morgan, Cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru “Mae Caeau Canmlwyddiant yn ffordd addas ac unigryw o nodi’r aberthau a gafodd eu gwneud gan filwyr 100 mlynedd yn ôl yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Rydym wrth ein bodd bod y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, yn cefnogi’r rhaglen hon ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Rydym yn edrych ymlaen at weld Aelodau eraill o’r Cynulliad a phob un o’r awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ymuno â ni wrth i ni greu’r etifeddiaeth fyw hon “.

Dywedodd Phil Jones, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru, ” Fel Ceidwad Coffadwriaeth y genedl, mae gan y Lleng rôl arbennig i’w chwarae yn nathliadau Canmlwyddiant y Deyrnas Unedig. Mae ein partneriaeth gyda Meysydd Chwarae Cymru yn sicrhau ein bod yn helpu i ddiogelu’r cofebion pwysig hyn, a geir yn aml mewn mannau cymunedol sy’n ffurfio rhan hanfodol o dreftadaeth leol ac sy’n chwarae rhan allweddol wrth addysgu’r genhedlaeth nesaf am arwyddocâd Coffadwriaeth. “