NEWYDDION

Y Gweinidogion yn mynychu seremoni agor Cae Coffa Cymru

07 / 11 / 2014

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn mynychu seremoni arbennig heddiw yn nhiroedd Castell Caerdydd i agor Cae Coffa Cymru.

Bydd dwy funud o ddistawrwydd am 11.00am pan fydd biwglwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol yn chwarae’r Caniad Olaf a pan gaiff yr anogaeth ei darllen.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a fydd yn cymryd rhan yn y seremoni trwy blannu teyrnged er cof am filwr ymadawedig:

“Rwyf yn falch o fynychu’r digwyddiad hwn i anrhydeddu’r rhai sydd wedi marw mewn gwrthdrawiad.

“Mawr yw ein dyled i’n Lluoedd Arfog a’n cyn-filwyr. Eleni, wrth inni nodi’r gan mlynedd sydd wedi mynd heibio ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae cyfle pellach inni gofio’r rhai a fu’n rhan o’r Rhyfel ac effaith y gwrthdrawiad ar ddatblygiad y Gymru gyfoes.”

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews:

“Mae’r Maes Coffa’n symbol trawiadol a gweledol o’u haberth ac yn arwydd o faint rydym yn gwerthfawrogi’r aberth hwnnw.

“Hoffwn ddiolch i’r Lleng Brydeinig Frenhinol am eu cymorth parhaus i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.”

Dywedodd Cadeirydd y Lleng Brydeinig Frenhinol, John Crisford:

“Bob blwyddyn, mae’r Meysydd Coffa’n dangos dyfnder a nerth teimladau’r cyhoedd tuag at aelodau ymadawedig o’n Lluoedd Arfog.”

“Mae nifer mawr o deyrngedau i’w gweld yn y Maes hwn. Mae rhai ohonynt yn coffáu milwyr ymadawedig y Rhyfel Byd Cyntaf, ac eraill yn coffáu aberthau mwy diweddar. Maent oll yn anrhydeddu cof yr ymadawedig ac yn dangos parch y cyhoedd tuag at aelodau o’r Lluoedd Arfog Prydeinig sydd wedi gwneud yr aberth eithaf er mwyn amddiffyn ein gwlad.”